Heb fod yn mhell o gymydogaeth y Dyffryn yr hanodd Ellis Wynn, awdwr penigamp Bardd Cwsg. Gŵr hynod yn ei oes, a hono yn gyffredinol yn dra llygredig. Credai pawb mai gŵr da oedd Ellis Wynn. Ac yn ddiweddaf oll, o'r un gymydogaeth yr hanodd y Dr. William Owen Pughe. Nid rhaid dywedyd dim am dano ef, y mae ei Eiriadur wedi anfarwoli ei enw, fel y cofir am dano holl ddyddiau y ddaear. [1]
MODRYB LOWRI.
YR hon oedd wedi ei geni bedair blynedd cyn blwyddyn y rhew mawr, ar yr hon flwyddyn y symudodd ei rhieni o'r Farchynys, sydd tua chwe' milldir o Ddolgellau, i Eithinfynydd, yn ystlys ddwyreiniol Dyffryn Ardudwy. Cerddodd hithau yr holl ffordd, sef o wyth i ddeg milldir, o'r Farchynys dros Fwlch-y-rhiwgur i Eithinfynydd, yn bedair blwydd oed. Croesodd lawer bryn, a phant, a goriwared, ar ei deutroed. Yr ydoedd o gyfansoddiad cryf, cafodd ei magu mewn llawnder yn gystled ag mewn llafur. Yr ydoedd yn ddynes dal a glandeg yn ei dydd. Priododd rhwng pump a deg-ar-hugain oed (sef mewn adeg gymhwys), bu iddi bedair o ferched, tair o ba rai sydd eto yn fyw, yr oeddynt oll yn wragedd parchus, tegwedd, a threfnus. Bu iddi un mab hefyd, yr hwn sydd eto yn fyw ac iach, ac a fu yn bob cysur i'w fam tra y bu ar y ddaear; tynodd hyn fendithion nid ychydig am ei ben, yn ol yr addewid i'r rhai a anrhydeddant eu tad a'u mam, canys y mae yn llwyddiannus yn ei amgylchiadau tymhorol, yn barchus gan ei holl gymydogion, yn dda ei ddeall, yn gelfydd ei law, yn ddoeth ei gyngor—" heb absenu â'i dafod na gwneuthur drwg i'w, gymydog." Bu farw Modryb Lowri tua dwy flynedd ar hugain yn ol mewn henaint teg, ac yn llawn o ddyddiau. Yr oedd yn ei phedwaredd flwyddyn ar bymtheg a phedwar ugain pan y bu farw. Y mae ei mab a'i merched, y rhai a adawodd ar ol, yr ochr chwith i bedwar ugain, nid llawer llai eu blynyddoedd, a'u dodi yn nghyd, na dau ugain ar bymtheg; ac o ran pob ymddangosiad, gallant estyn eu dyddiau hyd yn gant—sef "os yr Arglwydd a'i myn."
Ond nid yw hyn oll ond rhagdraith i'r hyn sydd genym i'w ddywedyd am Modryb Lowri, yr hon oedd yn hynod gyflawn o synwyr cyffredin. Wrth hyn nid ydym yn deall cyfran gyffredin o synwyr, ond ei bod wedi ei chynysgaeddu yn helaeth â'r synwyr hwnw a elwir synwyr cyffredin. Nid oedd ei synwyr hi yn goethedig, nac yn ddyrchafedig, hyny yw, nid oedd wrth natur nac o ddygiad i fyny fel Hannah More, ond mi daerwn yn hyderus eu bod cyn gyflawned âg un ferch yn ei hoes o synwyr cyffredin— y synwyr hwnw sydd yn adwaen ei le—yn ei fesur ac yn ei bwyso ei hunan—yn canfod ei wallau a'i ddiffygion—mewn gair, y synwyr sydd fuddiol i bob peth ac i bob amcan yn y byd sydd yr awr hon, ac yn yr hwn a fydd. Nid yw talent heb synwyr cyffredin ond yn peryglu ei pherchen,
- ↑ O'r Methodist, Chwefror, 1855.