arno eiseiu ei weled—aeth yntau i Gorsygedol heb oedi dim, ond nid heb ofni fod rhyw ddrwg ar droed; ac wedi i'r meistr a'r tenant gyfarch i'w gilydd yn eu dull arferedig, torai Mr. Fychan ato a dywedai, "Y mae Griffydd Evan o Uwchglan, yn dyweyd wrthyf dy fod wedi myned at ryw bobl, ac na wnei di mwy na thrin tir na thalu am dano; a ydyw hyny yn bod?" "Nac ydyw, Syr; os caf ffafr yn eich golwg, a chael bod yn denant i chwi fel cynt, triniaf fel cynt, a thalaf am dano fel rhyw dyddynwr arall; ac os methaf, mi a droaf fy nghefn, ac a âf ymaith yn ddiddig." "Wel, o'r goreu Harri," meddai Mr. Fychan, "ti elli fod yn ddiofal na chaiff neb dy dyddyn tra y triniech di ef ac y talech am dano,—cymer di dy ffordd dy hun i fyned i'r nefoedd." Ni welwn yn nrych hyn o hanes fod Mr. Fychan yn deall rhyddid crefyddol yn well na llawer o foneddigion Cymru yn y dyddiau hyn. Nid yw perchenogion tiroedd yn dinystrio cyfrifoldeb y tyddynwyr, ac nid yw cyfrifoldeb y meistr yn dinystrio cyfrifoldeb y gwas, na chyfrifoldeb y feistres yn diddymu cyfrifoldeb y wasanaethferch—i'w arglwydd ei hun y mae pob un yn sefyll neu yn syrthio. Nid ydyw yr awdurdodau gwladol yn gyfrifol dros neb o'r deiliaid, fel ag i beri i'r deiliaid beidio a bod yn gyfrifol eu hunain ;—y mae yn wir fod person y plwyf a phregethwr cynulleidfaol mewn cyfrifoldeb pwysig, ond nid yw y cyfrifoldeb hwn yn lleihau dim ar gyfrifoldeb y plwyfolion a'r gynulleidfa, ac nid yw dyledswydd y naill yn gynwysedig yn nghyfyngu rhyddid y llall. Teg yw i bawb gael ei ffordd ei hun i fyned i'r nefoedd; felly caniatäai Mr. Fychan—caniatäed eraill yr un peth ar ei ol, ac edryched pawb pa fodd y defnyddia ei ryddid.
Clywais er ys tro maith yn ol hanesyn arall am Mr. Evan Fychan, yr hwn ydoedd yn dangos ei fod o flaen ei oes mewn rhyddfrydigrwydd ac anrhydedd, ac nid o flaen ei oes ei hun yn unig, ond o flaen hon hefyd ysywaeth. Yr oedd ystâd Bodidrys wedi dyfod iddo ar ol ei fam: aeth yntau rai dyddiau cyn amser talu rhent i'r hen balas. Deallodd un o'i denantiaid fod y meistr newydd wedi dyfod i Fodidrys, a chan ei fod yn byw yn gyfagos i'r palas, aeth y prydnawn y daethai y gŵr bonheddig i mewn i gyfarch gwell iddo; gan ddatgan ei ddymuniad fod iddo gael hir oes a hir iechyd i fwynhau yr etifeddiaeth a ddaethai mor ddiweddar i'w ran. Diolchodd Mr Fychan am ei ewyllys da, a dechreuodd ei holi am lwyddiant y gymydogaeth, ac yn enwedig ei ddeiliaid ef ei hun. Atebai ei denant, "Mae pawb ar y cyfan yn llwyddiannus; y mae diwygiad yn nhrin y tir, a mwy o galchio nag a fyddai gynt, a llawer clwt yn cael ei glirio, diwreiddir y cyll, y drain, a'r mieri, fel y gellwch weled, ond myned oddiamgylch." "Y mae yn dda genyf glywed," ebai Mr. Fychan, "oblegyd y mae yn hyfryd gweled y ddaear yn cael ymgeledd gan ddyn, gan ei bod yn rhoi cymaint o ymgeledd i ddyn—megys ag y mae y plant a fo yn gweini ymgeledd i'w mam oedranus heb golli eu gwobr, eithr yn wastad hwy a fendithir; felly y rhai a lafuriant eu tir a ddiwellir â bara, ac ni chardotant hwy yn amser y gauaf, pan nad oes dim i'w gael." "Ond," ebai y ffarmwr, "y mae yma un dynyn gwan o denant i chwi, a chymydog i minau. Y mae hwnw yn wahanol iawn i'r tenantiaid cyffredin, y me yn llwm a diafael, nid oes ganddo nag ewinedd na dannedd fel y cyffredin o