fynech arno, gobeithio y gall pob un o honoch fyw, a byw yn well nag o'r blaen."—Yr oedd y boneddwr hwn mor llawn o anrhydedd ag ydoedd o synwyr cyffredin, a diamheu genyf ei fod yn llawn iawn o bob un o'r ddau —y mae llawer chwedl ar hyd ac ar led y gymydogaeth lle y cartrefai yn profi hyny. Y mae yr hanesyn uchod yn dangos na chai efe ddim llawer o drafferth gyda thyddynwyr a fyddent yn ceisio rhoi eu cyrn o dan rai eraill. Pwy byth a aethai ato ar y fath neges wedi clywed am y ddau denant hyn? Y mae rhai o'i fath eto yn bod yn Nghymru; gosodant eu tiroedd ar delerau rhesymol, ac os bydd y tenant yn ymadael, nid rhaid iddo adael ei feddianau ar ei ol; os bydd wedi gwneyd gwir welliant mewn sychu y tir, gwneyd magwyrydd, calchio, neu ryw gostau ereill, er gwir wellhad y lle, prisir y gwelliant gan wŷr parchus, un dros y gŵr bonheddig, a'r llall dros y tenant; ond deallaf nad llawer sydd felly yn Ngogledd Cymru; yr wyf yn ofni fod rhai yn meddwl am ba beth bynag sydd gan y ffarmwr, mai hwy a'i pïau, fel pe buasai yr anifeiliaid, yn wartheg a defaid, y ceffylau a'r moch, y naill fel y llall, yn eiddo the Lord of the Manor. Beth bynag yw dawn ac egni y ffarmwr a'i wraig a'i blant, eiddo y meistr yn ol ei feddwl ef ydynt oll. Os edrych y tenant rywfaint yn fwy boneddigaidd, ac os bydd ei blant wedi cael tipyn gwell dygiad i fyny na chyffredin, bydd perchenog y tir yn tybied mai o'i boced ef mewn rhyw fodd yr aeth y costau i gyd. Ond pa faint yw llôg y stock, a pha faint yw gwerth gofal, dawn, a diwydrwydd y ffarmwr a'i deulu? Ai nid ydyw yn iawn iddo gael llôg am ei arian, a thâl am ei lafur fel dyn arall? Paham y byddai raid i ffarmwr fod mor ochelgar rhag dangos yr un arwydd ei fod yn cyfoethogi ag ydoedd Gideon gynt rhag i'r Midianiaid wybod pa le yr oedd ei wenith ef? Gwelais lawer merch ieuangc yn medru chware y piano, ond anfynych y gwelais ferch i ffarmwr felly. Os gall ei rhieni fforddio rhoddi addysg felly iddi, paham y byddai raid iddynt hwy mwy na siopwr neu ryw fasnachwr arall wneuthur hyn? Ai merch y ffarmwr yn unig sydd i gael danod iddi ei pharasol, a hyny gan y meistr tir sydd wedi derbyn pob ceiniog o'i rent gan ei rhieni, a hwnw yn llawn cymaint ag ydyw y tir werth? Ond wedi i'r ffarmwr wellhau ei dyddyn trwy draul a llafur diflino, a bod y ffarm yn wirioneddol well, ac weithiau ei yru ymaith heb neb yn gwybod paham, gan adael llawer o ffrwyth ei lafur ar ol i'r sawl ni lafuriodd wrtho—gwybydded yr arglwyddi hyn fod Arglwydd y tenantiaid a hwythau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb ger ei fron ef, ac na ddaw i ganlyn neb i'r byd mawr ond ei garacter, sef y modd yr ymddygodd yn y byd hwn,—bydd y brenin yno heb ei goron—y boneddwr heb ei deitl—yr esgob heb ei feitr, a'r holl swyddwyr heb eu swyddau—ond neb heb ei garacter, bydded dda neu ddrwg.[1]
- ↑ O'r "Methodist," Mawrth, 1856.