Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

gwaith, wrth fyned o ffeiriau a marchnadoedd Pwllheli yma. Cymerwch gynghor genyf fi gadewch lonydd iddi tra y byddoch yn y Gymanfa beth bynag, ac efallai y bydd i chwi trwy hyny allu gadael llonydd iddi am byth.

Ni wn i paham y mae eisieu perswadio cymaint arnoch i adael y diodydd meddwol. Y mae rhai o honoch yn ceisio dyfod a rhyw bethau ydych yn ei alw yn rhesymau dros eu harfer yn gymedrol: ond ni welais i lawer o rym yn rhesymau neb drostynt; ac o'm rhan i, haws fyddai genyf o lawer gredu mai ffond o honynt ydych. Ond nid hawdd genych addef hyny. Gwirionedd ydyw hwn y rhaid ei wasgu allan o honoch. Yr oedd yn ein gwlad ni acw ŵr a gwraig yn byw yn weddol gysurus. Rhyw ddiwrnod fe darawodd cymydog wrth y gŵr, ac fe ddywedodd wrtho, Gwraig go sal a gefaist ti, hwn a hwn.' Be' sydd arni hi,' meddai y gŵr. Wel,' meddai y cymydog, 'y mae hi yn aml iawn ar hyd tai y cymydogion.' O felly,' ebai y gŵr. Y mae hi yn ddiog iawn hefyd.' 'O felly,' meddai y gŵr drachefn. Yn wir y mae hi yn un fudr iawn.' Wel,' meddai y gŵr, 'dywed di a fynoch di am Betty Rhys, y mae yn dda gen i hi.' Yr oedd y cymydog yn dyweyd y gwir bob gair am dani, mi hadwaenwn i hi, ac un fudr ddiddaioni oedd hi. Mi fu y cymydog yn bur hir cyn cael gan y gŵr i ddyweyd fod yn dda ganddo Betty Rhys; ond wedi iddo ddyweyd, fe welodd y cymydog mai y peth goreu iddo ef, oedd rhoddi ei gerdd yn ei gôd, a gadael rhwng y ddau a'u gilydd. Ond rhywfodd nis gallwn ni yn ein byw adael Ilonydd i chwi, er ein bod yn gwybod fod yn dda genych am y ddiod feddwol, oblegyd y mae y drygau sydd yn perthyn iddi yn llawer gwaeth, fy mhobol i, na'r drygau oedd y cymydog yn eu rhoi yn erbyn Betty Rhys. Gadewch hwy; ac ond i chwi eu gadael, chwi gewch fanteision lawer iawn i chwi eich hunain ac i'ch teuluoedd. Byddwch fyw yn hwy ond i chwi eu gadael. Fe ellir dyweyd am Ddirwest,' Y mae hir hoed yn ei llaw ddeheu hi, ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.' Fe fyddai eich cael i gredu hyn yn rhywbeth;—o'm rhan i, yr wyf yn ei gredu yn fy nghalon er's blynyddoedd. Yn wir, yr oedd hen berson yn byw tua'r Bala acw, wedi dyfod i ddeall hyn, flynyddoedd lawer cyn bod son am y Gymdeithas Ddirwestol.' Fe aeth hen gyfaill iddo i edrych am dano, ac fe aeth y per-