go lew o gaws, ac aeth i ben coeden gydag ef. Yr oedd y llwynog wedi gweled y caws, ac yn chwenych yn fawr cael gafael arno; ond, yn anffodus i madyn, nis gallai fyned i ben y goeden; felly yr oedd yn ymddangos yn lled dywyll arno am y caws. Ond daeth cynllun i ben y llwynog, a hrwy hyny sicrhawyd y caws yn bur ddidrafferth. Eisteddodd wrth fôn y goeden, a dechreuodd ganmol y frân: dywedai mai hi oedd yr aderyn harddaf yn y goedwig,yn ddu loyw landeg o'i phen i'w thraed, ac nad oedd ef yn amheu, pe buasai yn ymwadu ychydig â hi ei hun, na buasai yn canu mor beraidd a'r un o'r adar. Y frân, druan, ar hyn a ddechreuodd ymchwyddo, a gwneyd egni i ganu: ond wrth iddi agor ei phîg, syrthiodd y caws i safn y llwynog, a chafodd y frân, druan, ganu a dawnsio fel y mynai wedi iddo ef gael y caws. Felly chwithau, fy mhobl i, fe ddywed y tafarnwyr balch yma wrthych, Ni buasai raid i chwi lwyrymwrthod, ni fyddwch chwi byth yn yfed gormod; ac yr ydym yn eich gweled yn rhoddi anfri go lew arnoch eich hunain, wrth ymrwymo i'r fath gaethiwed, a chysylltu eich hunain â dosbarth o ddynion nas gallant gymeryd gofal o honynt eu hunain.' Tendiwch chwi hwy, fy mhobl i; y gwirionedd yw, am eich caws chwi y maent yn chwareu."
Anogai ieuengctyd i beidio bod yn mysg y rhai sydd yn meddwi ar wîn, rhag tynu arnynt eu hunain yr un gwaradwydd. Ac er argraffu hyn ar eu meddyliau, dywedai," "Yr oedd ffermwr yn y pen arall i'r sir, yn cael ei boeni yn fawr gan adar oedd yn bwyta ei ŷd, ac un diwrnod saethodd i'w canol, ac wrth edrych y celaneddau, canfu yn eu canol Robin Goch yn gorph marw. "Wel, Robin, Robin,' meddai, 'nid oeddwn yn meddwl dy ladd di, ond nid oedd achos i ti fod yn eu plith hwy.'
Dywedir fod llawer o bethau annoeth yn cael eu dyweyd gan rai wrth areithio ar ddirwest, ac er eu bod yn wir, nid yw pob gwir yn briodol i'w adrodd bob amser; ac i egluro hyn dywedai:—"Yr oedd brawd a chwaer yn cydfyw unwaith, a drwg iawn y cytunent â'u gilydd. Yn mhen amser bu y chwaer farw; ac arfer y pryd hwnw oedd hoelio yr arch ar ol rhoi y corph ynddo; a'r brawd, wrth glywed y joiner yn hoelio, a ddywedai, Hyna, hoeliwch,— da iawn—hoelen eto; gwnaeth lawer o boen i mi erioed.' Yr oedd hyny yn wir, ond nid gwir i'w ddyweyd y pryd hyny ydoedd."