eglwysi am flynyddau yn ychwaneg. Y rhesymau paham y cymmerir dynion defnyddiol ymaith, ac y gadewir ereill, y rhai pe symudid, na wybyddid eu colli, a gynnwysant lawer o ddirgeledigaethau annatguddiedig, a dyfnderoedd anamgyffredadwy i ni yn ein sefyllfa bresennol; etto, hwyrach y gallem yn ddibetrus gynnyg pedair neu bump o egwyddorion, y rhai a dueddant i daflu ychydig o oleuni ar y mater dan sylw. Mewn perthynas i'n hanwyl gyfaill, sylwn—
1. Ei fod wedi myned trwy ei raddau (degrees.) Y mae dyn yn y byd hwn yn debyg i blentyn yn yr ysgol, a chanddo lawer o wersi i'w dysgu, a llyfrau i'w darllen. Y mae Duw yn dysgu ei blant drwy gyfrwng dwy athrawes fawr, sef, Efengyl a Rhagluniaeth. Bydd Rhagluniaeth weithiau'n gwenu, ac weithiau'n gwgu—weithiau yn hael, ac weithiau'n gynnil—weithiau yn eu rhoi yn yr ystafell oleu, ac weithiau yn y daear-dŷ tywyll, a'r cwbl er dysgu'r plant. Y mae'r Efengyl gydag agwedd siriol, ddeniadol, a nefolaidd yn agor ei choleg, ac yn cynnyg ei baddysg; os bydd yr ysgolheigion yn gyndyn a gwrthnysig i gymmeryd eu dysg, hi try hwynt drosodd i law rhagluniaeth i'w ceryddu hyd oni chydnabyddont eu bai, a dysgu gwell moesau. Y mae y ddwy athrawes hon yn gweithredu dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glân, efe ydyw llywydd y Coleg. Yn yr ysgol hon dysgir y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael—rhwng pethau presennol a phethau i ddyfod—yma y dysgir dibrisio y naill, a gwerthfawrogi y llall. Gŵyr pawb a adwaenent Mr. W. ei fod ef yn y pethau yna yn ysgolar gwych.
2. Ei fod yn gwymhwys i goleg uwch. Pan y mae ysgolheigion da yn cael eu symud o'r a throfa isod, derbynir hwynt i'r athrofa uchod mewn trefn i ddyfod yn ysgolheigion gwell; pan y mae brodyr enwog yn cael eu cymmeryd o sefyllfa o ddefnyddioldeb yma, y maent yno yn cael eu codi i sefyllfa o ddefnyddioldeb mwy. Gallwn sylfaenu' yr haeriadau uchod ar awgrymiadau ysgrythyrol, Luc 19, 11—27; Dat. 7, 15; ar ddoethineb Duw, ac ar ddefnyddioldeb yn hanffodol i ddedwyddwch creadur deallawl. Ar yr egwyddor hon gellir sylwi, er cyw reinied oedd Mr. W. yma mewn gwersi moesol, ei fod yn gywreiniach ynddynt yn awr—er cymmaint oedd ei ddefnyddioldeb yma, y mae'n llawer mwy yn y nef. Y mae pob dyn duwiol yn ddefnyddiol yn y byd hwn, ond yn ddefnyddiol mewn sefyllfa uwch ac anrhydeddusach yn y byd arall. Gan hyny, er symud Mr. W. oddiwrthym ni, nid ydyw ei ddefnyddioldeb wedi ei golli o'r gymdeithas ddeallawl, y mae yn gweithredu yn ol amgylchiadau ei fodoliaeth heddyw yn rymusach ac effeithiolach nag erioed.
3. Fod ei Feistr mawr am ddangos nad ydyw llwyddiant ei achos yn ymddibynu ar alluoedd na chymhwysder neb o'i weision. Gwir yw, ei fod yn codi personau neillduol, erbyn amgylchiadan a gwaith neillduol, megys Luther a Chalfin, i effeithio y diwygiad Protestanaidd; Whitfield a Wesley, i godi crefydd ymarferol i sylw eu cyd-wladwyr; Fuller,