Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/105

Gwirwyd y dudalen hon

At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Erioed ni ymeflais yn fy ysgrifell gyda mwy o betrusder nâ'r tro hwn, rhag im' fodd yn y byd ysgrifio unrhyw ymadrodd annheilwng o'm testun. Bydd prinder defnyddiau perthynol i, ambell destun yn gwneuthur yn anhawdd llefaru neu ysgrifio am dano; ond llawnder defnyddiau perthynol i'r testun hwn a wna y gorchwylion hyny yn anhawdd eu cyflawni. Y mae enw WILLIAMS O'R WERN yn gyssegredig. Yr oedd ei wasanaeth yn gyssegredig i'r eglwysi tra y bu byw, ac y mae ei goffadwriaeth yn gyssegredig gan yr eglwysi yn awr wedi iddo farw.

Ni fynwn er dim i neb dybied fy mod yn anfoddog i ymaflyd yn y gorchwyl galarus o ysgrifio ychydig linellau er cof am ein hanwyl dad a'n cyfaill yn y weinidogaeth; ond yn hollol i'r gwrthwyneb, dymunwn i bob darllenydd ddeall fy mod yn teimlo awydd pryderus at y gorchwyl; a chyflwynaf fy niolchfryd mwyaf diffuant i chwi, fel awdwr ei Gofiant, am ganiatâu i mi, gydag ereill, y fraint o ollwng fy nheimladau i'r cyhoedd. Gwell genyf ddywedyd yn anmherffaith ar y mater, nâ bod heb ddywedyd dim. Nid wyf yn meddwl y gallaf draethu dim newydd, ac ni cheisiaf deithio llwybr disathr. Ymdrechaf amlygu fy syniadau o fewn cylch ychydig ymadroddion, a diau genyf, wedi y derbyniwch ddatguddiad o syniadau brodyr ereill, y gwelwch mor berffaith y cyd-olygid o barth rhinweddau personol a rhagoriaethau swyddol ein hybarch frawd ymadawedig.

Ymddengys amryw bethau i mi fel achosion priodol o DRISTWCH уn ei ymadawiad. Wrth ei golli ef, collwyd

Un eang iawn ei wybodaeth. Athraw goleu yn ngair Duw ydoedd. Chwiliodd yr ysgrythyrau yn ddyfal, a chyrhaeddodd adnabyddiaeth o feddwl Duw ynddynt i raddau lawer iawn y tu hwnt i'r cyffredin. Canfyddai gyssondeb y llyfr Dwyfol, a gwelai gyssylltiad a dibyniad y naill ran ar y llall. Athrawiaethwr ysgrythyrol ydoedd.

Un helaeth iawn ei ddoniau. Yr oedd ganddo gymhwysderau neillduol i amlygu meddwl ei Arglwydd i ereill gydag eglurder. Ambell un sy'n meddu ar amgyffred a deall da ei hun, ond ni fedd ddawn i drosglwyddo gwybodaeth i ereill, ac o ganlyniad, erys ei wybodaeth yn eiddo iddo ei hun yn unig. Ni etyb ei lafur na'i gynnydd unrhyw ddyben defnyddiol, ond yn unig iddo ei hun. Nid felly ein brawd ymadawedig. Halen ydoedd—hallt ei hun, ac yn halltu ereill. Canwyll ydoedd—yn oleu ei hun, ac yn goleuo ereill. Llestr ydoedd llawn ei hun, ac yn arllwys yn barhaus ereill. Yr oedd ganddo ddoniau i osod allan feddwl ei Arglwydd, nid yn unig gydag eglurder, ond hefyd gydag effeithiolrwydd. Meddiannai ar bob cyfaddasiad i ddylanwadu yn rymus ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd cyfaddasiad at hyn yn ei wedd, ei lais, a'i draddod—ddull. Gallai dynu ei gynnulleidfa at odreu