ein taro â theimlad byw; y mae ei enw mor anwyl, fel y mae yn gwneyd ei goffadwriaeth yn gynnes. Y mae rhyw drwydded yn ganiataol i deimlad o alar dan archoll ergyd mor drwm. Wylodd Iesu ei hun wrth fedd ei gyfaill; tristaodd y dysgyblion yn benaf pan y dywedai yr apostol na chaent weled ei wyneb ef mwy; a gwnai gwyr bucheddol alar mawr am Stephan; ac felly ni allwn ninnau ymattal rhag galar cyffelyb yn yr amgylchiad hwn, wrth gofio un o'n prif flaenoriaid a draethodd i ni air Duw.
Y mae ei dduwiolfrydedd yn fyw ar ein meddwl. Byddai yn ofer ac anmherthynol i mi gynnyg tynu darluniad o'i gymmeriad; nid at hyny yr amcanaf, ond yn hytrach adrodd rhyw bethau a barant i mi ei gotio fwyaf effro. Cyfeiriais at ei dduwiolfrydedd. Bwriadai fy nghroesawu â llety y noswaith flaenorol i ystorm fawr Ionawr, ddwy flynedd yn ol, ond fo'm lluddiwyd i gyrhaedd Llynlleifiad hyd drannoeth wedi y rhyferthwy. Gwedi cyrhaedd yno, arweiniai fi yn fuan i nen y tŷ, i weled y gwely lle y bwriadai i mi orphwys, a oedd erbyn hyn wedi ei orchuddio â thunelli o geryg a syrthiasai drwy y tô o'r ffumer. Dywedai, yn ei ddull teuluaidd a charedig, "Wel, frawd, dyma lle buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Ni allaf fyth anghofio ei sylwadau ar y waredigaeth, ac fel y dywedai am ein rhwymau o wneyd yr amgylchiad yn destun diolch. "Gallai fod rhywbeth etto i ni i'w wneyd," eb efe, ar ol arbediad fel hyn; y mae yn annogaeth i ni fod yn fwy cyssegredig i'r gwaith; we must improve it in a sermon." Arosais gydag ef hyd wedi addoliad teuluaidd. Yr oedd rhywbeth hynotach yn ei weddi y pryd hwnw nâ dim a glywswn erioed; yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan ag ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol, etto mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyt dalm o ddyddiau; braidd na ddychymmygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfryd erioed.
Ni allaf anghofio y gofal oedd ganddo am yr achos mawr yn gyffredinol. Nid yn unig yn nghylch ei weinidogaeth ei hun, ond fel y dywedai Paul," Heblaw y pethau sy yn dygwydd oddiallan, yr ymosod sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi"—y weinidogaeth—y diwygiadau achubiaeth y byd—y cymdeithasau rhinweddol, a gweithgarwch a lanwai ei galon. Yr oedd wedi bod ar ryw gyfrif yn weinidog i'r dywysogaeth. Nid oes odid gymmydogaeth yn Ngogledd Cymru, nad oes yno ryw rai wedi eu dychwelyd at y Gwaredwr drwy ei bregethau; ac nid oes nemawr deulu â'r hwn yr ymwelodd na adawodd yno ryw gynghorion ag sydd wedi glynu hyd heddyw yn eu plith.
Ni allaf anghofio ei ddefnyddioldeb fel cadeirydd yn mhlith ei frodyr. Yr oedd yn "fab tangnefedd ei hun," ac yn llwyddiannus fel tangnefeddwr yn mhlith ereill. Ni wn a arferwn ormodiaith pe dywedwn mai