Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Yr wyf yn anfon y llinellau canlynol atoch os bernwch hwynt yn deilwng o le yn Nghofiant y diweddar, a'r hybarch Mr. WILLIAMS, o'r Wern.

Ychydig flynyddoedd yn ol pan oedd Dirwest yn dechreu yn y Gogledd, cyfarfyddais â Mr. WILLIAMS yn ——— a bum yn cyd-bregethu, ac yn cyd-letya ag ef; ei destun ef ydoedd, 1 Cor. 8, 9-13, y ddyledswydd o hunan-ymwadu, a pheidio rhoddi tramgwydd i'r brawd gwan, &c., &c. Pan aethom i'r gwestdŷ yn yr hwn y lletyem, gofynodd gŵr y tŷ, "Mr. WILLIAMS, pa beth a yfwch chwi ar ol chwysu?" Atebodd Mr. W. "Nid oes arnaf fi ddim syched y rwan." Yna dywedodd gŵr y tŷ, "Y mae yn rhaid i chwi, Syr, gymmeryd gwydraid o frandy, gwna les i chwi ar ol chwysu." "Na, na, (ebe Mr. W.) os cymmeraf ddim, gwydraid o gwrw a fynaf fi; na roddwch ddim i 'nghyfaill, (eb efe,) y mae o yn Deetotaler." Yna galwodd gŵr y tŷ ar y forwyn i ddyfod â dau lasied o gwrw da, un i Mr. W. ac un i minnau, ebe efe, gan ddywedyd, "Ni chaiff y Teetotaler ddim." Pan ddaeth y cwrw i'r bwrdd, mi a ddywedais wrth Mr. W., "Os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, byddwch yn tramgwyddo brawd gwan, Syr." "Wel, wel, (ebe yntau,) dyma hi yn lân." "Peidiwch gwrando arno, (ebe gŵr y tŷ,) y mae o yn Deetotaler, yfwch, yfwch, fe wna les i chwi, ar ol chwysu." "Na, na, (meddai Mr. W.) y mae yn rhaid i mi wrando arno." Yna, mi a chwanegais, gan ddywedyd, ei fod ef wedi pregethu yn rhagorol ar hunan-ymwadiad, y ddyledswydd o beidio a thramgwyddo'r brawd gwan, &c.; bod y gynnulleidfa luosog a fu yn ei wrando, yn canmol egwyddorion ei bregeth nodedig ef, ac yn meddwl yn fawr am ei ddawn rhyfeddol, ac am ei ysbryd efengylaidd yntau; ond os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, (ebe fi,) byddaf yn ystyried eich bod yn dinystrio egwyddorion eich pregeth, yn yn twyllo'r gynnulleidfa, ac yn tramgwyddo brawd gwan, ar yr un pryd. "Wel, wel, (ebe Mr. W.) dyma fi wedi gwneyd rhwyd y rwan i mi fy hun, a thyma fi ynddi yn fast." "Na wrandewch arno, (ebe gŵr y tŷ,) Teetotaler yw o; yfwch, yfwch." "Yr wyf yn coelio y dylwn wrando," meddai Mr. W., gan ofyn i mi, a oeddwn i yn ystyried ei fod yn bechod ynddo ei hun iddo ef yfed y glasied cwrw hwnw? Dywedais wrtho, nad oeddwn yn benderfynol am hyny, fod llawer o bethau ynddynť eu hunain yn ddiniwed, ac yn gyfreithlon, ond nad oeddynt yn llesâu yn eu cyssylltiadau â phethau ereill, ac y gallasai esiampl gŵr o'i sefyllfa a'i gymmeriad ef, yn yfed ychydig yn gymhedrol, fod yn demtasiwn i ereill yfed yn anghymhedrol, a meddwi, &c. "Wel, (ebe Mr. W.) pe deuwn i yn ddirwestwr, ar yr egwyddor yna y deuwn i, yr wyf yn coelio, rhag i mi fod yn fagl i ereill, ond yn hytrach roddi siampl iddynt," &c. Ond trwy gael ei argymhell gan ŵr y tŷ, efe a brofodd y glasied cwrw, ac a'i