Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/116

Gwirwyd y dudalen hon

o hyny ynddo yntau tuag atom ninnau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsant y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymmydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir, adeiladaeth i'n meddyliau.

Amlwch. WM. JONES.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL SYR,—Gwnaed argraffiadau dyfnion ar feddyliau miloedd drwy weinidogaeth gref a goleu ein diweddar gyfaill Mr. WILLIAMS, o'r Wern; ac yr wyf yn dra hyderus y bydd i'ch adgofion chwi am nodweddiadau ei ysbryd hawddgar, ei lafur helaeth, a'i ddawn deniadol, adnewyddu yr argraffiadau hyny, ac y gwneir felly ad-argraffiadau oddiwrthynt ar yr holl oesau a ddaw. Y mae yr ystyriaeth o hyn yn ennyn mewn llawer mynwes, heblaw yr eiddo fi, yr awyddfryd gwresocaf am weled ei Gofiant.

Yr wyf yn cofio yn dda am rai o'i ymweliadau â thŷ fy nhad pan oeddwn rhwng wyth a phymtheg oed, ac am rai o'i weddiau dros "blant y teulu," a'i gynghorion rhybuddiol rhag iddynt droi yn anffyddlawn trwy ymgyndynu ac ymwylltio, nes digio Duw eu hynafiaid, a chael eu gadael i ymgaledu ac ymddyrysu nes syrthio i golledigaeth.

Yr wyf yn cofio hefyd am amryw o'i ymweliadau â'r Athrofa tra y bûm yno; a gwn fod fy nghyd-fyfyrwyr yn barod iawn i ardystio, na byddai byth yn ymadael heb grybwyll wrthym ryw ranau o'i brofiad ei hun, neu o hanes ereill, er dyfnhau yn ein calonau yr ystyriaeth o fawr werth haf-dymhor byr a hyfryd rhagorfreintiau yr Athrofa; ac er ein hannog i ymgyrhaedd yn ddiwyd am wybodaeth, ac i ymorchestu beunydd am santeiddrwydd, fel rhag-gymhwysderau anhebgorol i fod yn ddefnyddiol a chysurus gyda gwaith y weinidogaeth.

Nid anghofir byth gan rai o'i gyfeillion am ei ysbryd caredig, a'i hoff gymdeithas adeiladol, pan gartref yn ei dŷ ei hun. Nid wyf yn meddwl fy mod gymmaint â phum mynud erioed yn ei gyfeillach, heb ei fod yn cychwyn rhyw ymddyddanion buddiol, a barent les, nid yn unig i'r deall, ond i'r teimlad hefyd. Ennynid y gyfeillach ganddo y rhan fynychaf drwy un o'r llwybrau canlynol: Naill ai drwy ymholiad am y llyfrau duwinyddol ag y byddai yn ddiweddar wedi eu darllen neu wedi clywed am danynt; neu ynte, drwy ymchwiliad i ystyr rhyw gyfran o'r gair, ac i'r dull mwyaf effeithiol i esbonio a chymhwyso y gyfran hòno at y teimlad a'r fuchedd; neu ynte, drwy grybwyll y gwelliadau rhyfeddol oedd yn cymmeryd lle yn holl gylch y celfyddydau, yn eu harweddiad ar gysur y teulu dynol; neu ynte, drwy gyfeirio at amcanion a rhesymiadau seneddwyr yn eu cyssylltiad â rhyddid cydwybod, ac â lledaeniad egwyddorion yr efengyl; neu ynte, drwy gydnabod yr achos-