ddrych, ac ar yr un pryd guddio y brychau ac esgusodi y crychni fyddo yn y nodweddiad. Ond yma nid rhaid i chwi ofni rhoddi rhaff i'ch galluoedd cerfiadol, dywedwch a fynoch am ei ragoriaethau, ei ddoniau, a'i hawddgarwch, ni feia neb a adwaenai WILLIAMS o'r Wern chwi am wneyd darlun gwenieithus o hono. Anaml iawn y cyfarfyddodd y fath bwng o rinweddau Cristionogol, heb ond ychydig neu ddim i dynu oddiwrthynt neu eu difwyno. Cyfyd eich holl anhawsdra chwi, gan hyny, oddiwrth fawr ragoriaeth gwrthddrych y Cofiant. Yr wyf yn hollol ymwybodol nas gallasai y gorchwyl syrthio i well llaw; etto, pe meddech ar alluoedd a medrusrwydd Raphael, byddech yn fyr o gerfio eich darlun i gyfateb rhagoriaethau y cynllun sydd o'ch blaen.
Pan fu WILLIAMS o'r Wern farw, gallesid dywedyd, yn ddibetrus, i "wr mawr a thywysog syrthio yn Israel." Nid aml y bu neb ar y ddaear yn dwyn mwy o ddelw yr Arglwydd Iesu. Clywais lawer o son am y dyn enwog hwn pan yn blentyn, yr hyn a greai awydd anghyffredin ynof ei weled a'i glywed; a phan gefais hyny o fraint, gallaswn ddefnyddio geiriau brenines Sheba, "Ni fynegwyd dim o'r hanner." Pan aethum i'r Athrofa, yr oeddwn yn cael y cyfleusdra o'i weled a'i glywed yn aml yn yr areithfa, yr ystafell, a'r wers-ystafell, a chydag hyfrydwch y cofiaf am ei ymweliadau â'r Drefnewydd y prydiau hyny. Gadawai arogledd daionus ar ei ol bob amser. Creai ynom, fel myfyrwyr yn gyffredinol, ofn pechu—awydd i ymgyssegru yn drwyadl i'r gwaith—penderfyniad i fod yn rhywbeth—a chryn hyder y gallasem ragori wrth ymroddi. Yr oedd ei feddwl mawr a'i galon eang a gwresog yn ennyn ynom dân nes yr oeddym yn llefaru wrth ein gilydd ac wrth ereill. Aml y dywedai wrthym, "Edrychwch ati, fechgyn, a chofiwch mai "College is the crucible of character." Yr ydych yn ffurfio eich caritor am byth yn yrAthrofa." Anaml iawn y gwelwyd neb yn gwella wedi treulio eu blynyddoedd yn yr Athrofa yn annefosiynol, yn ddiog, a diofal am achos Duw. Cyfeiriai ni at amrywiol enghreifftiau cyffrous o wirionedd ei nodiadau. Ni bum erioed yn ei gyfeillach heb deimlo yn well yn fy mhen a'm calon; ni chlywais o hono erioed yn pregethu heb dderbyn cynhyrfiadau newyddion i astudio yn ddwysach, i fyfyrio yn fanylach, ac i weddio yn ddyfalach. Fel dyn, ystyriwn ef y mwyaf hawdd ei garu, ac fel Cristion y mwyaf dirodres a difaldod; medrai drosglwyddo ei deimlad brwdfrydig i galon arall, heb ddywedyd, "Saf ar dy ben dy hun, santeiddiach ydwyf nâ thydi." Fel pregethwr, ynte, yr oedd y mwyaf teilwng o bawb i'w efelychu fel cynllun. Meddyliai yn syml a chlir, a thraddodai ei feddyliau yn eglur a rhwydd; gwiriai yr hen arwydd-air hwnw, "Words will follow things." Ni ofynai beth foddlonai, ond beth lesäai ei wrandawyr. Cyrhaeddodd boblogrwydd ar dir gwirionedd noeth. Ei amcan oedd bob amser gwaedu rhywrai, ac anaml y methai gyrhaedd yr amcan hwn; teimlai ei wrandawyr yn gyffredinol, fel Louis XIV. o Ffrainc, wrth wrando Massilon, "yn ddig wrthynt eu hunain." Teimlai y pechadur