awr." Ond ni adawaf byth mo honot etto; ni chuddiaf fy wyneb oddi wrthyt yn dragywyddol mwy; ni edrychaf byth yn ddig arnat etto. Dyma fywyd y nefoedd. "Yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-fainc a drig gyda hwynt; ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddiar bob wyneb," fel y fam yn sychu dagrau ei phlentyn.
O'r tu arall, anghymmeradwyaeth a soriant Duw. Dyma angeu uffern. Duw wedi cuddio ei wyneb mewn soriant anghymmodlawn. Pa fodd y deil yr annuwiol, pan ddywed Duw wrtho, "Wel, ni fydd yn dla genyf byth mo honoch! Ni edrychaf yn siriol byth arnat! Ni faddeuaf i ti yn dragywyddol!" Rhaid y sudda y geiriau, a'r olwg ar Dduw wedi digio, fel plwm i'w galon, gan ei wasgu i lawr i ddyfnderau eithaf trueni a phoen.
IV. Bod y byd hwnw yn dragywyddol ei barhad. "Bywyd tragywyddol, gwarth a dirmyg tragywyddol." Tragywyddol, tragywyddoldeb, ni allwn yn awr amgyffred ond ychydig, a dywedyd ond llai am dano.
1. Parhad diraniad ydyw. Y mae amser yn cael ei ranu yn flynyddau, tymhorau, misoedd, wythnosau, dyddiau, a nosweithiau, oriau a mynudau, &c.; ond nid oes rhaniad ar dragywyddoldeb—un cylchgyfnewidiad o ddechreuad a diwedd blwyddyn, o wahanol dymhorau; dim rhifo misoedd, wythnosau, a dyddiau yno. Un tymhor, un oes, un parhad, heb na rhan na chyfran yn perthyn iddo.
2. Parhad dileihad ydyw. Nid yw yn treulio ac yn lleihau, fel y mae amser. Y mae amser yn lleihau bob yn foment a mynud, awr, dydd, mis, a blwyddyn, yn barhaus er pan ddechreuodd; ond sefyll y mae tragywyddoldeb. Nid oes dim o hono wedi myned heibio etto, yr un foment o hono wedi treulio—sefyll byth yr un faint—dileihad! Ni allwn ei amgyffred.
3. Y mae yr un ddelw ac argraff ar ei holl bethau. Sefyllfa y gwynfydedigion yn y nef, â thragywyddoldeb yn argraffedig arni; tragywyddol yn argraffedig ar baladr pob telyn aur yno, yn gerfiedig ar y gorseddau a'r coronau; ac felly yr ochr arall, tân tragywyddol, tywyllwch tragywyddol. Edryched yr enaid colledig lle yr edrycho, y mae yn gweled tragywyddoldeb yn argraffedig ar furiau ei garchar, ar y clo, yr agoriad wedi ei dynu allan, a'i ollwng, fel y dywed Young, i wagle diwaelod, yn adsain wrth gwympo i wared-Tragywyddol! tragywyddol flam—gwae, rhincian dannedd—hanner nos am byth-nid â byth yn un o'r boreu yno-pob peth o'r ddwy ochr, yn dragywyddol a digyfnewid.
CASGLIADAU.-1. Yr ydym ni oll yn dal perthynas â'r byd y buom yn son am dano. Pwy a wrendy hyn, a ystyr ac a glyw, erbyn yr amser a'r byd a ddaw? Ein byd ni ydyw, a byd y byddwn yn gwybod yn brofiadol beth yw byw ynddo yn fuan bawb o honom.
2. Y mae yn amlwg mai nefoedd meddwl yw y nefoedd, ac mai uffern meddwl ydyw uffern; y meddwl yw gorsaf dedwyddwch a thrueni —ansawdd foesol y galon yw y ffynnonell o'r naill a'r llall.