Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

awdurdod Ddwyfol ynddynt ag oedd o'r blaen, ond y mae y dyn wedi hir gynnefino â hwynt, nes y maent wedi colli eu heffaith arno ef—" perarogl bywyd," wedi myned "yn arogl marwolaeth." Y mae yma rai o honoch ag y bu yr efengyl yn cynnyg ei holl nerth arnoch am flynyddau, nes y mae erbyn hyn wedi colli ei grym yn hollol arnoch, braidd, o berwydd ymarfer â chynnefino â'i gwrando, dan oedi ufydd-dod.

II. Y mae ymroadau y meddwl yn colli eu grym fwy-fwy, wrth oedi, neu y mae y meddwl yn colli ei rym i ddychwelyd, mewn mân ymroadau, rhyw hanner penderfyniadau, ac etto yn aros yn yr un fan, fel anifail yn y gors, yn cynnyg dyfod allan, ac yn myned wanach, wanach, bob tro, yn fwy digalon i gynnyg, bob methiant. Y mae yn tori ei galon, ac yn ymroi i aros a marw yno o'r diwedd. Y ddafad yn y mieri, yn ceisio ymryddhau, yn troi o amgylch, ac yn myned sicrach, sicrach yn y dyrysni o hyd, a'i nherth hithau yn gwanhau, un ymegniad nerthol yn y dechreu, a fuasai yn effeithiol er ymryddhad. Yn gyffelyb y mae'r oedwr, gwneyd addunedau, llunio bwriadau, gwneyd rhyw osgo yn awr ac eilwaith i ddychwelyd; y mae rhyw fath o ymroad yn ei feddwl, ond y maent yn myned yn wanach, wanach, y naill ar ol y llall, fel y ddafad yn y dyrysni, pan mai un ymegniad nerthol a phenderfynol ar y cychwyn a fuasai yn effeithiol er dyfod yn rhydd o fagl y diafol. Y mae y meddwl yn colli ei nerth o'r diwedd, yr ymroadau yn marw, y pechadur o'r diwedd yn gwan-obeithio am ddychwelyd fel yr anifail yn y gors: "Nid oes obaith, nac oes, canys cerais ddyeithriaid, ar eu hol hwynt yr af fi." Swn pechadur megys wedi tòri ei galon, yn ymroi i farw yn y gors, yn ei bechod, wedi bod megys rhwng difrif a chwareu, yn ceisio dychwelyd.

III. Y mae llafur ac ymdrech ereill er dychwelyd ac achub yr oedwr yn pallu, wrth gael eu siomi mor aml yn eu dysgwyliadau. Bu amser ag yr oedd eglwys Dduw yn edrych gyda llygad gobeithiol ar ryw rai—dysgwyl eu gweled bob Sabboth yn dychwelyd-gweled arwyddion teimlo dan y weinidogaeth-gweled y dagrau, hyny yn codi dysgwyliad -dwyn eu hachos at Dduw mewn gweddi gyda gradd o hyder-eu cynghori a'u cymhell gyda theimlad awyddus a gobeithiol; ond wrth gael eu siomi yn eu dysgwyliadau, y mae eu nherth mewn gweddi drostynt yn llesgâu—eto hyder am lwyddo wrth eu hannog a'u cynghori yn gwanychu. Yr ydym yn deimladwy o wirionedd byn gyda golwg ar rai dynion. Y mae eglwys Dduw wedi colli rhai gwrandawyr dan ei dwylaw fel hyn; y maent wedi graddol lithr0 o'i gafael wrth orsedd gras―ei dysgwyliadau am danynt yn marw yn raddol a diarwybod iddi yu mron-wedi cael o honi ei siomi yn ei dysgwyliadau am danynt gynnifer o weithiau: Y mae yr angylion wedi eu siomi ynddynt lawer gwaith-wedi bod gyda'u costrelau yn dysgwyl am eu dagrau—wedi bod megys yn sefyll ar eu haden uwch eu penau, yn dysgwyl eu gweled yn cwympo yn edifeiriol wrth draed trugaredd lawer gwaith—dysgwyl cael y newydd am eu dychweliad i'w adrodd yn y nef, a chael eu siomi.