Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

Canaan; ond nid y ffordd hòno a ddewisodd Duw. Yn y bennod nesaf cawn hanes eu symudiadau tua'r anialwch. Buasent mewn taith neu ddwy yn cyrhaeddyd Horeb, pe cawsent ddilyn yn mlaen y ffordd yr oeddynt wedi cychwyn; ond yn lle canlyn yn mlaen, cawsant orchymyn i droi yn ddisymwth tua'r môr, gan adael gwlad Canaan ar y llaw ddeau. Y symudiad hwn a barodd i Pharao dybied eu bod wedi dyrysu yn yr anialwch, ac a'i dug i'r penderfyniad i ymlid ar eu hol, gan sicrhau buddugoliaeth hawdd ac esmwyth arnynt. Felly parotodd ei lu, ei feirch, a'i gerbydau, a goddiweddodd hwynt mewn cyfyng-leoedd nad oedd yn bosibl iddynt ddianc o'i afael, yn ol ei feddwl. Yr oedd Pihahiroth, craig serth, o un tu iddynt; Baal-sephon o'r tu arall. Dywed rhai mai craig oedd hon, a bod yr Aifftiaid wedi gosod eilun-dduw o'r enw hwnw ar ei phen. Ystyr yr enw yw, Arglwydd neu Warcheidwad y Gogledd. Yr oedd y duw hwn ar lun pen ci, meddant, wedi ei osod yno ar gyffiniau yr Aifft, i gyfarth, a chadw y gelynion draw, a chadw y caethion rhag dianc; ac mewn cyfeiriad at hyn, fe allai, y dywedir, "Yn erbyn neb o feibion Israel ni symud ci ei dafod." Yr oedd yr Arglwydd fel hyn yn tywallt dirmyg ar eilunod yr Aifft, drwy ddwyn ei bobl, a fuasent gaethion ynddi, heibio i drwyn y ci, ac yntau yn ddigon llonydd a dystaw ar y pryd. Agorodd yr Arglwydd ffordd i'w bobl y pryd hwn trwy ganol y môr; ymlidiodd Pharao ar eu hol i'r môr; aethant trwodd yn ddiangol drwy ei ganol ar dir sych, a boddwyd yntau a'i holl liaws yn y dyfroedd. Y bore drannoeth, pan ddaeth boneddwyr a boneddesau yr Aifft allan, i fyned i gyfarfod eu brenin a'i fyddin fuddugoliaethus, fel y tybient, gan ddysgwyl gweled gweddillion y cleddyf o Israel yn cael eu dwyn yn ol i'r caethiwed. Erbyn dyfod i olwg y môr, pa beth a welent, ond cyrff meirw yn hulio y traeth, meirch, marchogion, olwynion a darnau cerbydau, wedi eu golchi a'u treiglo at y làn gan y tònau, ac Israel yn gwersyllu ar y làn yr ochr arall, yn canu cân buddugoliaeth: "Israel yn rhydd, a Pharao yn yr eigion."

Rhydd y testun hysbysrwydd o'r ffordd a ddewisodd yr Arglwydd i'w harwain o wlad y caethiwed i wlad yr addewid. Nid y ffordd a gymmerasai dyn a gymmerodd Duw. Cymmerasai dyn y ffordd rwyddaf ac agosaf; dewisodd Duw y ffordd anhawddaf a phellaf; ac etto, gwell oedd ffordd hwyaf Duw nâ ffordd feraf dyn.

Y mae yr Arglwydd yn Arweinydd i'w bobl etto; y mae yn arwain drwy ei air a'i ragluniaeth; ac nid ein ffyrdd ni yw ei ffyrdd ef yn aml. Ond ei ffordd ef bob amser yw y ffordd oreu, pa mor groes bynag y dichon iddi fod i'n syniadau a'n teimladau ni.

I. Mai nid y ffordd agosaf ydyw yr oreu bob amser. Nid "ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos," oedd y ffordd oreu i Israel gynt; ac nid y ffordd a fyddo yn ymddangos rwyddaf ac agosaf iddynt hwy, yw yr oreu yn aml i bobl Dduw etto.

1. Dichon fod ar y ffordd agosaf beryglon a phrofedigaethau na allwn