eu cynnal a myned trwyddynt. "Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft." Nid oedd Israel etto yn brofiadol o ryfel; nid oeddynt wedi gweled na dysgu rhyfel; caethweision y pyllau clai a fuasent; dysgasent wneuthur priddfeini yn dda, ond nid trin arfau rhyfel. Yr oedd y Philistiaid yn genedl ryfelgar iawn, ac ni chawsai Israel fyned trwy eu gwlad, heb eu darostwng. Y mae yn wir y gallasai yr Arglwydd yn hawdd eu darostwng o'u blaen, fel y darostyngodd Pharao; ond yr oedd eisieu eu dysgu hwy i wynebu caledi; felly nid oeddynt yn gymhwys yn bresennol i fyned y ffordd hòno. Gwyddai Duw y buasent yn debyg iawn i edifarhau a throi yn ol, pe buasent yn eyfarfod â gelynion a pheryglon; am hyny, arweiniodd hwynt o amgylch heibio i beryglon. Y mae peryglon a phrofedigaethau fel hyn ar y ffordd, a fyddo yn ymddangos yn rhwydd, hawdd, ac agos yn ein golwg ni, yn aml. Y mae yr Arweinydd mawr, yn ei ragluniaeth, yn ein harwain heibio iddynt, o amgylch i'r anialwch, rhag i'r Cristion ieuanc a dibrofiad edifarhau cychwyn y daith, a dychwelyd yn ol i'r Aifft. Pe cawsit dy ffordd dy hun, digon tebyg mai yn ol yn yr Aifft y buasit cyn hyn. Yr oedd llawer o beryglon a phrofedigaethau ar y ffordd hòno na wyddit ti am danynt, ond gwyddai yr Arweinydd.
2. Anfantais arall a allai fod ar y ffordd agosaf, pe na buasai perygl oddiwrth elynion a rhyfel er eu digaloni, buasai mewn perygl o ymchwyddo mewn balchder, ac anghofio eu Duw. Yr oedd eisieu eu dysgu i fod yn ostyngedig, profiadol, a theimladwy o'u dibyniad ar Dduw. Yr ydym yn dueddol iawn i ymchwyddo mewn hunanoldeb cnawdol, os cawn y ffordd agosaf a rhwyddaf, ein ffordd ein hunain—i golli y golwg ar Dduw, a theimlad o'n dibyniad arno, a'n rhwymau iddo: "Yr uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist; yna anghofiaist Dduw, yr hwn a'th wnaeth, ac a ddiystyraist Graig dy iachawdwriaeth." Fy llaw uchel i, ac nid yr Arglwydd."
II. Ffordd Duw yw y ffordd oreu er ei bod yn mhellach. Mae pedair mantais ar y ffordd hon,
1. Gwell mantais i adnabod ein hunain. Deugain mlynedd yr anialwch a roddodd gyflawn fantais i Israel i'w hadnabod eu hunain. Ni buasent byth yn credu eu bod yn genedlaeth mor war-galed, gwrthryfelgar, ac anniolchgar, oni buasai i daith yr anialwch ddangos hyny iddynt. Yno y profwyd hwy, ac y dangoswyd iddynt beth oedd yn eu calon. Ni chawsid ganddynt gredu eu bod mor ddrwg ag y gwnaethant rwgnach yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw, wedi gweled rhyfeddodau yr Aifft, oni buasai taith yr anialwch. Ond pan adfyfyrient ar y daith, cofio grwgnach Mara, cofio dyfroedd cynnen Cades, y tuchan am gig wrth feddau y blys, llo aur Horeb, gwrthryfel Cora, &c., deuent i'w hadnabod eu hunain. Ni buasem ninnau yn meddwl byth fod cymmaint o ddrwg yn ein calon, ond buasai i daith yr anialwch ei dangos i ni. Ni buasem byth yn coelio fod cymmaint o falchder, anghredin-