Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/140

Gwirwyd y dudalen hon

galon yn gwahodd y meddyliau halogedig i mewn, ac yn aelwyd iddynt, yn lle eu gyru ymaith, yna y mae yn gyd-gyfrannog â hwy, ac yn gyfrifol am danynt; ond nid oes ganddi help fod y lladron hyn yn troi at ei drws, ac yn ceisio llety ganddi. Meddyliai ofer a gaseais," ebe Dafydd.

Hanfod Pabyddiaeth.

Y MAE yn ffaith mai y rhai hyny ag ydynt yn cadw mwyaf o dwrw yn erbyn Pabyddiaeth, yn ei hathrawiaeth a'i defodau, ydynt bob amser agos yn dal ac yn cofleidio mwyaf o'i hysbryd, eu hunain. Hanfod ac enaid y dyn pechod ydyw anffaeledigaeth; ac unwaith yr elo unrhyw ddyn, neu unrhyw blaid, i ystyried ei hunan yn anffaeledig mewn unrhyw beth, y mae y dyn hwnw, neu y blaid hòno, yn wir Babaidd, pa mor selog bynag y dichon eu bod yn erbyn athrawiaethau a gosodiadau y Pâb o Rufain. Meddyliwn fy mod yn ffieiddio'r ysbryd hwn o'm calon yn Rhufain a phob man arall; ond o'r ddau, haws genyf oddef ei santeiddrwydd Rhufeinaidd nâ neb arall; y mae ganddo hynafiaeth o'i du, ac y mae yn onestach nâ'r lleill yn gwneuthur ei hòniadau. Y mae efe yn cyhoedd arddel y peth, tra yr ewyllysiai y lleill ei wadu. O'r ffynnon felldigaid hon y tardd yr holl gollfarnu cyflyrau a glywir yn fynych. Os na bydd pawb yn ymostwng i farn Mr. Anffaeledig yn mhob peth, esgyna i'r orsedd, a chyhoedda ddedryd damnedigaeth dragywyddol ar eu cyflyrau. A dyma yw "ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, a dangos ei hun mai Duw ydyw." Gallaf fod yn sicr yn fy meddwl fy hun" ar bob pwnc, a gallaf ystyried fod yr hwn sydd yn barnu yn wahanol i mi mor gydwybodol ac mor sicr yn ei feddwl yntau. Yr wyf fi yn golygu mai myfi sydd yn fy lle, ac mai efe sydd yn camsynio, ond yn cofio ei bod yn bosibl mai fel arall y mae yn bod. Yr wyf fi mor agored i fethu ag yntau. Ni pherthyn i mi ei farnu a'i gondemnio ef, mwy nag y perthyn iddo yntau fy marnu a'm condemnio innau. Gweision un arall ydym ein dau, a gosodir ni oll gerbron gorseddfainc farnol Crist.

Ysbryd a thymher addfwyn yn gweddu i weinidogion yr efengyl.

Y MAE y Bibl, yn rhywle, yn cyffelybu rhyw ddynion i ddrain, gwr a gyffyrddo â hwynt a amddiffynir â phaladr gwaewffon." O! na fydded angen am baladr gwaewffon na lledr-fenyg i'n trin ni, gweinidogion yr efengyl; na fydded ein hysbrydoedd, ein tymherau, na'n geiriau, o ansawdd ddreiniog a phigog. Un addfwyn a gostyngedig o galon oedd ein Meistr ni; byddwn ninnau yn debyg iddo. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddywedyd am danaf fy hun, heb ryfygu, "Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel," neu, o leiaf, heddychol.