chwaer yn uniongyrchol i'w gwneyd, er mwyn iddo ef gael llonydd a heddwch gyda'i lyfrau. Yn y sefyllfa isel hon, a than yr anfanteision mawrion hyn, y dechreuodd enaid dy'sgleirwych ein harwr ymweithio allan i olwg y byd.
Wedi bod o hono yn pregethu oddeutu cartref a manau ereill yn achlysurol, am oddeutu dwy flynedd, aeth i ysgol yn Aberhafest, gerllaw y Drefnewydd, swydd Drefaldwyn; ni bu yno ond oddeutu wyth neu naw mis; wedi hyny, dychwelodd adref, ac aeth i Wrexham, a derbyniwyd ef i'r Athrofa yno, yn y flwyddyn 1803, ag oedd y pryd hyny dan ofal athrawaidd yr hybarch Jenkin Lewis. Yr oedd yr amser hwnw yn tynu at ddwy-ar-hugain oed. Rhaid i mi grybwyll yn y fan hon hanesyn am dano, a adroddwyd i mi gan ei fab hynaf. Yr oedd WILLIAM, pan yn blentyn, yn wrthddrych o neillduol hoffder ei fam, ac yr oedd wedi esgeuluso ei ddyddyfnu hyd nes oedd rhwng tair a phedair blwydd oed. Dywedodd ei dad wrtho un diwrnod, "Will, os gwnei di beidio sugno, mi a roddaf yr oen dû i ti." Cytunodd Will â'r cynnygiad, ac ni cheisiodd sugno o'r dydd hwnw allan. Cynnyddodd yr oen dû fel praidd Jacob, ac ar ei fynediad i'r Athrofa gwerthodd y ddeadell ddefaid, a dyna oedd prif foddion ei gynnaliaeth dros ystod yr amser y bu yno.
Pan y daeth gyntaf i Wrexham, yr oedd mor hollol Gymreigaidd, fel na allai roddi ar ddeall i Mrs. Lewis, gwraig yr athraw, yr hon oedd Saesones, pa beth oedd ei neges, a chan nad oedd Mr. Lewis gartref ar y pryd, bu raid anfon allan i ymofyn am gyfieithydd rhyngddynt.
Nid cymmaint o gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol a gyrhaeddodd yn yspaid y pedair blynedd y bu yn yr Athrofa. Gellid priodoli hyny yn un peth, i ddiffyg ysgol yn ei dymhor bachgenaidd. Yr oedd raid iddo ef ddechreu yn y dosbarth isaf megys pan ddaeth i mewn, fel ag yr aeth llawer o'i amser heibio cyn iddo allu cyrhaeddyd y radd o ddysgeidiaeth, ag y byddai ereill yn gyffredin wedi myned drwyddi cyn dyfod i'r Athrofa; a pheth arall, yr oedd ei feddwl wedi gogwyddo at ganghenau ereill o ddysgeidiaeth, cyn iddo erioed gynnyg ei ddwyn at y ganghen hon; neu, mewn gair, yr oedd wedi tyfu yn rhy fawr a chryf yn ei dueddfryd at elfenau ereill gwybodaeth, i'w ddarostwng a'i ystwytho i ymgymmodi ag egwyddorion sychlyd grammadegau. Ei hoff waith ef ydoedd chwilio i mewn i egwyddorion athroniaeth naturiol a moesol, yn enwedig egwyddorion duwinyddiaeth;