Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

felly nid oedd Mr. WILLIAMS, y mae yn wir, yn ddyn dysgedig, yn ol yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair dysgedig, sef, cyfarwydd-deb a hyddysgrwydd mewn ieithoedd; eithr os priodol galw dyn cyfarwydd ag egwyddorion a deddfau natur, y meddwl, a'r ysgrythyr, yn ddyn dysgedig, yna, yn ddiau, yr oedd Mr. WILLIAMS yn un o ysgolheigion penaf ei oes. Pa fodd bynag, dysgodd gymmaint, tra yn yr Athrofa, ag a'i galluogai i bregethu yn Saesonaeg, a digon o Roeg ag a'i gwnelai yn alluog i ddefnyddio rhyw gymmaint ar yr iaith hono. Trwsgl ydoedd ei leferydd yn yr iaith Seisnig, fel y gellid ddysgwyl i un wedi tyfu i'w oedran ef, cyn dysgu gair o honi, i fod. Ni fyddai un amser yn mron mewn diffyg o eiriau i osod ei feddwl allan, ond yn seiniad ac aceniad y geiriau y byddai yn colli. Arferai ddywedyd, nad oedd ei dafod ef wedi ei wneuthur na'i fwriadu gan ei Luniwr erioed i barablu Saesonaeg. Ond er ei fod yn safndrwm a thafod-drwm yn yr iaith hòno, ni wnai hyny yn esgus a dadl, fel y gwnai Moses gynt, rhag pregethu ynddi, pan fyddai galwad arno; ac nid anfynych, ond yn wir yn dra mynych, y ceisid hyny ganddo. Byddai y Saeson, yn mhob man ag yr oedd yn adnabyddus iddynt, yn neillduol o hoff o'i wrando. Cai gynnulleidfaoedd lluosog iawn i'w wrando yn Ngwrexham, Croesoswallt, a lleoedd ereill.

Y mae yn chwedl am dano ddarfod iddo ddywedyd wrth ei athraw, pan ar ymadael â'r Athrofa, ei fod yn coelio nad ymadawsai nemawr un oddiyno yn onestach nag ef; gan olygu nad oedd yn dwyn rhyw ystor o ddysgeidiaeth ieithyddol gydag ef oddiyno. Pan annogid ef gan rai cyfeillion i aros yn yr Athrofa dros ryw gymmaint o amser yn hŵy, "Na, na," eb efe, "os felly, bydd y cynhauaf drosodd tra fyddwyf fi yn hogi fy nghryman."

Yn ystod ei dymhor athrofaol y dechreuodd ei dalentau ysblenydd fel pregethwr ymddadblygu ac ymddysgleirio, yr hyn sydd yn ddigonol brawf nad rhyw lawer a arosai ei feddwl yn mhorfeydd y grammadegau. Rhagorai y rhan fwyaf o'i gyd-fyfyrwyr arno wrth adrodd y gwersi gerbron yr athraw; taflai yntau hwythau oll i'r cysgod yn yr areithfa gerbron y gynnulleidfa.

Ymwelodd unwaith neu ddwy â rhanau o'r Deheudir, yn yspaid gŵyl-ddyddiau yr Athrofa, lle yr ennillai enw a chymmeradwyaeth anghyffredinol fel pregethwr. Wedi ei ddychweliad adref y tro diweddaf oddiyno, derbyniodd alwad