y peth o'i flaen yntau; dywedodd y deuai efe atynt os gallent gael tŷ cyfleus iddo i fyw; derbyniwyd y newydd gyda llawenydd mawr; ymofynwyd, a chafwyd tŷ cyfleus, yr wythnos ganlynol, sef y Talwrn, tua milldir o'r Rhos, ar ffordd y Wern; a symudodd yntau a'i deulu yno yn fuan; sylwai ar ei ddychweliad at ei hen gyfeillion, ei fod wedi cael gafael ar ei hen lyfr gweddi drachefn.
Dechreuasid pregethu gan yr Annibynwyr yn Rhuabon hefyd, yn agos i'r un amser â Llangollen. Byddai y myfyrwyr o Wrecsam yn dyfod yno ar gylch; y Parch. J. Breese, wedi hyny o Lynlleifiad, yn awr o Gaerfyrddin, a ddeuai yno fynychaf; pregethodd Mr. WILLIAMS ei bregeth gyntaf yno yn 1813, oddiwrth Luc 24, 47, "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef, yn mhlith yr holl genedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r tŷ ar amser y bregeth, a throes i mewn, ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf o ddaethant yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno; hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn rag-grybwylledig mewn tŷ annedd bychan; yr oedd Mr. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynnorthwyo Mr. WILLIAMS ar yr amgylchiad hwn. Bu yr eglwysi yn Rhuabon a Llangollen, dan ofal Mr. WILLIAMS, gan eu gwasanaethu ei hunan hyd y gallai, a gofalu am gynnorthwyon i lenwi y bylchau yn rheolaidd, hyd y flwyddyn 1822, pan yr ymunodd y ddwy i fod yn weinidogaeth rhyngddynt yn ol cynghor a dymuniad Mr. WILLIAMS; cytunasant i roddi galwad i Mr. W. Davies, myfyriwr yn Athrofa y Drefnewydd, yr hwn sydd yn bresennol yn gweinidogaethu yn Rhydy ceisiaid, swydd Gaerfyrddin, yr hwn a gyd-syniodd â'u cais, ac a sefydlwyd yn fugail arnynt y flwyddyn ganlynol. Adeiladwyd capel Rhuabon dan arolygiaeth Mr. WILLIAMS, ac agorwyd hefyd yn yr un flwyddyn, sef 1813.
Yr oedd baich ei ofal erbyn hyn wedi ei ysgafnhâu yn fawr; nid oedd ganddo mwyach dan ei ofal neillduol, ond Harwd, y Wern, a'r Rhos. Yr oedd y gwrandawyr a'r eglwysi yn y ddau le olaf yn myned ar gynnydd mewn rhifedi yn barhaus; ond am y cyntaf, Harwd, er cymmaint oedd dyfal-