nid, pa fodd bynag, yn annibynol ar drefniadau cymdeithasol. Gall fy mod yn methu, ond y mae sylw ac ystyriaeth wedi fy ngorfodi i ddyfod i'r penderfyniad, nad ydynt i'w dysgwyl yn sefyllfa cymdeithas na byddo ynddi gymundeb o deimlad; y mae cymundeb hwn o deimlad yn anghenrheidiol, fel ffrydle y dylanwad, yr hwn a ddefnyddia Ysbryd Duw i'r cyfryw ddybenion.
Yn y golygiad hwn yr wyf yn ystyried Cymru yn mhell iawn o flaen rhanau ereill o'r ymerodraeth Frytanaidd. Y mae y Cymry, gydag ond ychydig iawn o eithriadau, yn un gymdeithas gyffredin; yr hyn a deimla un a deimla pawb, os bydd yn achos o bwys cyffredinol; ac yr wyf yn credu ei fod yn gwbl wirionedd fod crefydd yn eu plith hwy yn wrthddrych mwy o deimlad a gofal cyffredinol nâ dim arall. Fy meddwl ydyw, nas gellir eu dwyn i deimlo, fel corff yn gyffredinol, mor ddwfn a dwys, gyda golwg ar unrhyw achos arall. Y mae yn mhell o fod felly yn Lloegr; y mae Yscotland beth yu nes, fe allai; y mae yn mhellach fyth o fod felly yn yr Iwerddon annedwydd.
"Ond y mae rhesymau cryfion ereill dros y golygiad hwn. Y mae dylanwad y sefydliad gwladol wedi ei lwyr ddiddymu agos yn Nghymru; y mae y weinidogaeth yno wedi mawr gynnyddu mewn cymhwysderau a ffyddlondeb, ac ar gynnydd yn barhaus. Y mae eu sel gynnyddol, o fewn ychydig o flynyddau, wedi codi lleoedd o addoliad agos, os nid llawn ddigon i gynnwys holl boblogaeth y dywysogaeth, a dysgwylir y byddant yn alluog i'w cynnysgaeddu â gweinidogion teilwng. Yr Annibynwyr Cymreig yn unig a aethant yn ddiweddar gymmaint dros ben eu gallu wrth adeiladu lleoedd o addoliad, nes tynu arnynt eu hunain yn agos i bymtheng mil a deugain o bunnau o ddyled. Wrth weled fod y baich hwn o ddyled yn attalfa mor fawr am eu llwyddiant crefyddol, daethant i'r penderfyniad ardderchog i wneuthur un ymdrech egniol er rhyddhau eu hunain oddiwrtho ar unwaith. Cyfranwyd y swm o ddeunaw mil, pedwar cant, a phedair o buunau yn y dywysogaeth yn unig; ac anfonasant genadau i Lundain, a rhanau ereill o Loegr, i wneuthur apeliad at eu brodyr Saesonig i'w cynnorthwyo i dalu y gweddill, yr hyn sydd, nid yn unig yn debyg o gael ei berffeithio, ond y mae yr anturiaeth wedi peri i'r Annibynwyr Saesonig feddwl cymmeryd yr un drefn i dalu dyledion eu haddoldai eu hunain, y rhai ydynt hefyd dan gryn faich; a dysgwylir y bydd iddynt yn fuan ddilyn esiampl eu brodyr Cymreig, ac fel hyn brofi i Loegr a'r byd oll, pa mor nerthol ac effeithiol ydyw yr egwyddor wirfoddol.
"Oud y mae yn amser i mi, bellach, ddwyn y llythyr hwn i derfyniad, drwy wneuthur sylw byr o'r cyfarfod Cymreig y bum ynddo neithiwr. Trefn y cyfarfod ydoedd dwy bregeth ar ol eu gilydd, a chanu rhyngddynt. Dywedir i mi fod yr arfer yma yn un dra chyffredin yn Nghymru, pan ddygwyddo dau weinidog dyeithr gydgyfarfod, a phob amser yn y gymmanfa. Nid yw yn beth anghyffredin ar yr achlysuron