hyny fod amrywiol bregethau ac anerchiadau yn cael eu traddodi yn olynol yn yr un oedfa. Pregethu ydyw eu mawr ddywenydd cymdeithasol, ac y maent yn caru cael gwledd o hono.
"Y bregeth gyntaf neithiwr a draddodwyd gan y Parch. Samuel Roberts, o Lanbrynmair, oddiwrth Job 35, 10, 'Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i, yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?" Treuliodd oddeutu deng mynud (er fy mwyn i) i roddi sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg; wedi hyny llefarodd tua chwarter awr yn Gymraeg. Y mae yn wr ieuanc o dalentau gorwych, hawddgar, duwiol, tra pharchus, a mawr ei ddylanwad; medd yr anrhydedd o fod yn wr tra dysgedig, yn awdwr gwych, ac ennillodd amryw wobrwyon yn yr eisteddfodau. Y mae yn anuhraethol fwy o anrhydedd iddo ei fod yn llwyddiannus iawn mewn ennill eneidiau at Grist. Y mae yn llawn mor hyddysg yn yr iaith Saesonaeg ag ydyw yn ei iaith ei hun, a'r drychfeddyliau a adroddai efe yn Saesonaeg oeddynt fuddiol, prydferth, a thra effeithiol, ond yn hytrach yn farddonol, fel ag yr oedd y testun yn ei arwain yn naturiol i'r cyfryw ddull: Yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos.' Ei brif fater ydoedd dangos rhagoriaeth cysuron y credadyn ar yr eiddo yr anghredadyn, yn ngwahanol dymhorau ac amgylchiadau eu bywyd, ac, yn olaf, yn awr angeu, lle y perffeithiwyd y darlun yn y modd mwyaf effeithiol. Argyhoeddwyd fy meddwl na allai dim ond ffrwythlonrwydd yr iaith Gymraeg osod allan ddelweddau yr olygfa olaf hon, fel ag yr oedd ei law yn ei cherfio drwy yr ychydig eiriau Saesonig a ddefnyddiai i'w harddangos. Yr oedd yn tra ragori ar ddim o'r fath a wrandawswn o'r blaen.
Dilynwyd Mr. Roberts gan y Parch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Ei destun ydoedd, 'O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim; etto, ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd,' Luc 5, 5. Rhoddodd yntau sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg. Mawr oedd fy syndod at alluoedd a chyrhaeddiadau dyn, yr hwn oedd yn ddwy-ar-hugain oed cyn dechreu dysgu yr egwyddor yn iaith ei fam.[1] Y mae yn wr o wneuthuriad Duw ei hun mewn amryw ystyriaethau, ac yn un o ddynion mawrion Cymru; mawr yn ei gymhwysderau naturiol; mawr mewn canlyniad i'w lafur a'i ddiwydrwydd; a mawr yn ei wybobaeth a'i ragoriaethau crefyddol. Ei fater oedd, Mai nid ein teimladau, ond gair Duw ydyw rheol ein dyledswydd. Dangosai yr anghyssondeb a'r gwrthuni osod teimladau yn rheol dyledswydd; oblegid felly, pa fwyaf anystyriol a llygredig a fyddai y dyn, lleiaf oll fyddai ei rwymedigaethau i ufyddhau a byw yn dduwiol!
"Er ddarfod i'w bregeth pan draddodid hi yn Gymraeg, yn ei helaeth-
- ↑ Yr oedd y gwr parchedig wedi ei gam-hysbysu yn hyn; yr oedd Mr. WILLIAMS wedi dysgu darllen Cymraeg er yn fachgen ieuanc, ac yn yr Athrofa cyn bod yn ddwy-ar-hugain.