allanol werth dim heb grefydd y meddwl. Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, yn ymwybodol fod yr amgylchiad yn nesâu, ffarweliodd yn dawel â'i phriod hawddgar ac â'i phlant anwyl, gan eu cynghori yn y modd dwysaf, a'u rhybuddio gyda'r difrifoldeb mwyaf, i fod yn sicr o'i chyfarfod hi yn y nefoedd; yna torodd allan mewn llef eglur, 'Ac y'm ceir ynddo ef,'
"Yn ei mynudau olaf dywedai ei merch hynaf wrthi, fod yn anhawdd iawn ymadael. Atebai hithau, 'Nac ydyw, nac ydyw!' Dywedai fod ganddi lawer o gyfeillion yn y nefoedd, a dysgwyliai y byddai Jones o Dreffynnon, a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, yn ei chroesawi i mewn; ond meddyliai nas gallai gymmeryd amser i ysgwyd llaw â hwy i gyd, cyn myned i fwrw ei choron i lawr wrth draed yr Hwn a fu farw dros y penaf o bechaduriaid.
"Fel ffrwyth aeddfed, wedi ymddiosg oddiwrth bob peth gweledig, ar ddydd Iau, Mawrth 3, 1836, ehedodd ei henaid dedwydd i'w gartref bythol; gadawodd y byd trancedig, yn yr hwn yr ymlwybrasai dros 53 o flynyddau; aeth i fyd didranc a diofid; ymadawodd â'i phriod naturiol, ac aeth i fyw at briod ei henaid; ffarweliodd â'i chyfeillion daearol i fyned at luoedd o gyfeillion nefol, 'at fyrddiwn o angylion, ac at Gyfryngwr y Testament Newydd.'
"Dydd Mercher y 9fed, claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa capel y Wern, pryd y gweinyddodd y Parch. J. Saunders, Buckley. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ar yr achlysur i dyrfa luosog, gan y Parch. I. Harris, Waeddgrug, oddiwrth Diar. 10, 7."
Effeithiodd marwolaeth Mrs. Williams yn drwm iawn ar deimladau Mr. WILLIAMS; curiodd a gwaelodd yn fawr yn ei iechyd dan y brofedigaeth hon. Yr oedd yn llawn deim. ladwy o fawredd ei golled ei hun, a cholled ei blant, yn ei marwolaeth hi; ac er cryfed ydoedd ei feddwl, ei synwyr, a'i ras, bu agos iddo ymollwng dan faich o deimlad galarus y pryd hwn. Ymddengys ei fod wedi hyn megys yn dymuno ymadael o'r ardaloedd lle y treuliasai holl flynyddau dedwydd (mewn cydmariaeth) a llafurus ei oes weinidogaethol ynddynt, ac anghofio ei ofid mewn golygfeydd a chyda chyfeillion newyddion. Yn y flwyddyn ganlynol, 1837, derbyniodd alwad unleisiol oddiwrth eglwys Gymreig y Tabernacl, Great Crosshall Street, Llynlleifiad, a chydsyniodd â hi, a rhoddodd yr eglwysi yn Rhos a'r Wern i fynu gyda chalon drom ei hun, ac er gofid mawr iddynt hwythau. Wedi bod o honynt gyda'u gilydd mewn cariad ac anwyldeb mawr dros ddeng mlynedd ar hugain. "Soniais lawer gwaith," meddai, "am roddi yr eglwysi i fynu, ac ymadael, ond ni