ddychymmygais erioed y buasai yn waith mor galed hyd nes aethum yn ei gylch o ddifrif."
yr Parodd y newydd am ei symudiad syndod ac anfoddlonrwydd cyffredinol drwy Gymru yn mron, a gellir dywedyd mai dyma yr unig ymddygiad yn mywyd Mr. WILLIAMS ag y darfu i gyfeillion na gelynion fedru ei feio o'i herwydd: yn WILLIAMS O'R WERN y mynai y bobl iddo fod, fel pe buasai cyssylltiad annattodadwy rhwng y ddau enw a'u gilydd; a phenderfynent yn mhob man i wneuthur hyny o ddial arno, sef na alwent ef byth wrth un enw arall, pe buasai yn byw hanner cant o flynyddau. Pa un bynag a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio, diau fod llawer ag oeddynt yn ei feio yn siarad dan eu dwylaw, ac yn hollol anwybodus o'r rhesymau ag oedd ganddo ef i'w dueddu i wneuthur y penderfyniad hwnw. Dywedai lawer gwaith ei fod yn dawel ei feddwl, wedi difrifol a manwl ystyried yr holl amgylchiad, a gweddïo llawer am arweiniad dwyfol, nad oedd wedi pechu yn erbyn y nef a'i gydwybod ei hun, er ei fod yn droseddwr yn ngolwg llaweroedd ag nad oedd ganddynt y wybodaeth anghenrheidiol i roddi barn deg ar yr achos. Ac yn awr, wedi cael holl amgylchiadau a chanlyniadau ei symudiad gerbron ein sylw, fe allai bod mor anhawdd ag erioed i ni ddyfod i benderfyniad sicr yn ein meddyliau yn y mater, sef pa un a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio. Pan edrychom ar fawr lwyddiant ei weinidogaeth yn ystod y tair blynedd olaf o'i fywyd yn Llynlleifiad o un tu, buan adfeiliad ei iechyd ef ei hun a'i ferch hynaf, yr hyn a'u dygodd ill dau i wared i'r bedd mor fuan, ar y llaw arall, a gosod y naill beth ar gyfer y llall, nid oes genym ond tewi, ac yn wir, ni pherthyn i ni farnu. Ond y ffeithiau ydynt: Ymadawodd o'r Wern-ymsefydlodd yn Llynlleifiad—treuliodd dair blynedd o fywyd llafurus a llwyddiannus iawn yno adfeiliodd yn brysur o ran ei iechyd a'i gyfansoddiad—dychwelodd yn ol i'r Wern, a gorphenodd ei yrfa a'i fywyd llafurus a defnyddiol mewn tangnefedd. Yr amgylchiadau olaf hyn a fyddant yn ddefnyddiau y bennod nesaf. Dygwn y bennod i derfyniad â byr grynodeb o'i bregeth ymadawol yn Rhos a'r Wern y Sabboth cyn ei symudiad oddiwrth anwyl bobl ei ofal, sef y 26ain o Fedi, 1837. Yr oedd yr ysgrifenydd yn yr un amgylchiad ag ef ar yr un amser, neu yn mhen ychydig ddyddiau ar ol iddo ef, Mr. WILLIAMS, benderfynu