Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

symud i Lynlleifiad, penderfynodd yntau, yr ysgrifenydd, symud oddiwrth bobl a'i mawr garai, ac a fawr gerid ganddo, i'r dosbarth o winllan ei Arglwydd ag y mae yn awr yn cael y fraint o lafurio ynddo. Cyfarfu & Mr. WILLIAMS yr wythnos ar ol ei ymadawiad o'r Wern: "Wel," eb efe, "yr ydych chwithau ar fin yr amgylchiad caled o ymadael; un caled iawn ydyw yn wir: dau amgylchiad cyfyng i'm teimladau i oedd ymadael â Rebecca, ac ymadael â'r Wern: yr oeddynt yn methu dal i bregethu y Sabboth diweddaf. Chwennychwn i chwithau bregethu yr un bregeth ar eich ymadawiad, os nad ydych wedi parotoi eisoes.' Ac felly fu.

2 COR. I, 14.

"Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu."

I. Paham y mae dydd y farn yn cael ei alw "dydd Crist?"

1. Gwaith Crist yn unig fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen y diwrnod hwnw. Bydd gwaith pawb arall wedi ei osod o'r neilldu a'i attal. Bydd y byd mor brysur ar waith y boreu hwn ag erioed, megys yr oedd yn nyddiau Noe, priodi, planu, prynu, gwerthu, adeiladu, &c., hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; "felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn." Rhydd ymddangosiad Crist y dydd hwnw attalfa fythol ar bob gwaith daearol: gwaith yr amaethwr, y masnachwr, y morwr, y celfyddydwr, y teithiwr, gwaith llywodraethwyr, cyfreithwyr, 66 a phob crefftwr o ba grefft bynag y bo," ac ni "chlywir trwst maen melin" ar y ddaear mwyach; gwaith pregethwyr yn darfod, ni chlywir swn turtur fwyn yr efengyl mwyach; gwaith Crist fel Barnwr fydd yn unig yn cael ei ddwyn yn mlaen. Ni ddarfu iddo attal gwaith neb pan ymddangosodd ar y ddaear, ond ettyl waith pawb pan ymddengys ar y cymylau.

2. Pethau Crist yn unig fyddant yn llenwi meddyliau ac yn destunau ymddyddanion pawb y diwrnod hwnw; holl achosion trafferthus y byd hwn wedi eu llwyr anghofio gan bawb; holl ofalon galwedigaethau ac amgylchiadau y ddaear wedi eu carthu allan o bob meddwl, y miliynau meddyliau anfarwol wedi eu cydgrynhoi at yr un gwrthddrychau, pob ymddyddanion am bethau ereill wedi tewi; Crist a'i bethau wedi llyncu y cwbl iddynt eu hunain.

3. Y dydd y bydd Crist yn gorphen ei waith mawr yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth a phrynedigaeth, ac y bydd ei fuddugoliaeth ar ei holl elynion yn cael ei pherffeithio.

4. Y dydd y bydd Crist yn ymddangos yn ei lawn ogoniant—y bydd yn dyfod i'w oed—dydd ei goroniad.

II. Y bydd dynion yn cyfarfod yn y dydd mawr hwnw, yn ol y gwahanol berthynasau a fuasai rhyngddynt â'u gilydd, er eu mawr orfoledd, neu eu mawr drueni.