Pennod III
Llythyr y Parch. T. Pierce ar nodwedd a llwyddiant llafur gweinidogaethol Mr. WILLIAMS yn Llynlleifiad—Ei gystudd—Ei ymweliadau â Chymru—Ei symudiad yn ol i'r Wern—Graddau o adferiad—Ei ail gystudd—Cystudd a marwolaeth ei ferch hynaf—Ei ddyddiau olaf yntau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cystudd a marwolaeth ei fab hynaf.
"At y Parch. W. Rees, Dinbych.
"Liverpool, Meh. 24, 1841.
"ANWYL FRAWD,—Mae y gorchwyl teilwng sydd genych mewn llaw, sef crynhoi ynghyd hanes bywyd yr haeddbarch a'r byth-goffadwriaethol Mr. WILLIAMS, o'r Wern, yn beth ag sydd yn tynu sylw y wlad arnoch, a'i golwg atoch, a'i dysgwyliad wrthych, mewn pryder ac awyddfryd mawr.
"Mae teilyngdod gwrthddrych eich Cofiant y fath, fel y geilw ar bawb a wyddent ychydig am dano i'ch cynnorthwyo, trwy anfon i chwi y pethau hyny yn ei gymmeriad a'i hynodent fel un yn rhagori ar bawb yn ei oes. Diau nad gormod dweyd hyny am dano ef,
Dyn yn ail o dan y nef—i WILLIAMS
Ni welir, rhaid addef;
Myrdd welir mewn mawr ddolef,
Drwy y wlad ar ei ol ef.
"Gan fy mod wedi cael y fraint o gyd-weinidogaethu ag ef yn y dref hon am dair blynedd, a'r rhai hyny y blynyddoedd diweddaf o'i weinidogaeth, meddyliais y gallai ychydig o'i hanes yn ein plith, am yr yspaid hwnw, fod o ryw ddefnydd i chwi. Dir y gellir dweyd am dano ef, fod ei oes i gyd wedi bod o ddefnydd mawr yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol trwy Gymru, ac o fendith fawr i ni fel cenedl; ond gyda phriodoldeb y gellir dweyd am dano, fod ei lwybr fel y goleuni, yr hwn a lewyrchai fwy-fwy hyd estyniad llinyn y cyhydedd tragywyddol yn nef y nef. Felly anrhydeddwyd Llynlleifiad â'i weinidogaeth pan oedd fel tywysen aeddfed, ac amlygiadau eglur arno ei fod yn ymyl y nefoedd.
"Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Hydref, 1836. Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynnulleidfaoedd yn rhyfeddol; ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, etto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragywyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau; teimladau lluaws o'r rhai