yn parhau yn flodeuog, gweithgar, defnyddiol iawn. Annogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb, ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion, a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynnorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi.
"Efe a sefydlodd hefyd gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodau y cynnulleidfaoedd.
"Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, etto'n foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er ennill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd, a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair, nid oes un sefydliad, na changen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bobpeth y rhoddai ei law arno.
"Mae ëangder a chyssondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabyddus, fel nad oes eisiau i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn.
"Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt.
"Yr oedd fel pe buasai wedi cyrhaedd adnabyddiaeth berffaith o natur trwyddi oll. Yr oedd ei gwmni a'i gyfeillach bob amser i mi yn werthfawr iawn, ac yn llawn o addysg ac adeiladaeth. Pob tro yr eisteddwn yn ei gwmni, byddai fy meddwl yn cael ei eangu, a'm hysbryd ei loni: ni chodais o'i gyfeillach erioed, heb achos i farnu fy mod wedi cael rhyw adeiladaeth. Ymddangosai ef bob amser nid fel un am ragori ar bawb arall, ond am ddysgu ereill i ragori. Yr wyf yn credu mai llawenydd ei galon fuasai fod ei frodyr oll yn well pregethwyr nag ef ei hun. Byddai yn llawenhau yn fawr pan welai arall yn rhagori arno mewn unrhyw ddawn neu dalent; cefnogai hyny mor dadol gyda'r sirioldeb mwyaf.
"Wedi cyffwrdd â'r tant hwn, sef fy nghyfeillachau personol gydag