odd loni a chryfhau ychydig yn raddol, ond yr oedd peswch caled yn parhau arno, ac yn gwrthod gollwng ei afael o hono, er pob ymdrech.
Wedi iddo ymgefnogi ychydig, a dyfod yn ddigon galluog i'r daith, cynghorai ei feddyg ef i ddyfod drosodd i Gymru, fel y moddion mwyaf effeithiol i'w gryfhâu, a chael buddugoliaeth ar ei elyn—y peswch. Mor fuan ag y teimlai ei hun yn alluog i'r daith, daeth trosodd i dŷ y caredigion hoffus hyny i weision ac achos Crist, Mr. John, a Miss S. Jones, o Nanerch, swydd Fflint, lle y cafodd dderbyniad serchoglawn, ac ymgeledd dirion a gofalus am oddeutu tair wythnos. Teimlai ei hun yn gwellhau i raddau tra y bu yno, a meddyliodd y gwnaethai marchogaeth les iddo; ac wedi benthyca ceffyl i'r pwrpas, cymmerodd daith am bythefnos drwy ranau o sir Gaernarfon a Meirionydd, a dychwelodd yn ol wedi sirioli a chryfhau i raddau; ond yr oedd ei beswch o hyd yn parhau, fel yn benderfynol na chawsai na chyfferi meddygol, nac awyr hen wlad anwyl ei enedigaeth a'i weinidogaeth, beri iddo ollwng ei afael o'i ysglyfaeth.
Cyn cychwyn oddicartref i'r daith hon, ysgrifenodd at ei fab ieuengaf, yr hwn oedd y pryd hyny yn Llanbrynmair. Y pigion canlynol o'r llythyr hwnw a ddangosant agwedd a theimlad ei feddwl ei gystudd:yn
"ANWYL BLENTYN,—Y mae yn ddrwg genyf fod eich teimladau mor ofidus o herwydd fy afiechyd; yr oeddwn yn ofni hyny o herwydd bod cymmaint o straeon yn cael eu taenu ar hyd y wlad. Mi a fum yn sal iawn, ond yr oedd Dr. Blackburn yn lled hyderus yr amser gwaethaf a fu arnaf; dywedai fod y lungs yn iach.
Yr wyf yn dyfod yn well bob dydd yn awr—yn pesychu llai, ac yn dechreu teimlo gwell archwaeth at fy mwyd, yr hwn hefyd sydd yn cynnyddu bob dydd.
Y mae y Dr. yn fy nghynghori i fyned i'r wlad am dair wythnos neu fis mor gynted ag y delo y tywydd yn ffafriol. Yr wyf yn bwriadu myned i Nanerch at Miss Jones, bydd yno le cysurus iawn i mi.
"Yr wyf yn gobeithio, ac yn gweddio, ar fod yr afiechyd hwn o fendith fawr i mi, i'm dwyn i fyw yn nes at Dduw, ac i bregethu Crist yn well nag y darfu i mi erioed.
"Yr oeddwn yn teimlo awydd i fyw ychydig yn hŵy er mwyn fy mhlant. Y mae llawer iawn o weddïau wedi, ac yn cael eu hoffrymu i'r nef ar fy rhan. * * * * Anwyl blentyn, gobeithiaf eich bod yn