pummed o Ionawr, (fel y crybwyllwyd o'r blaen) taflodd y rhuthrwynt y ffumer, yr hon a ddisgynodd ar dô y tŷ, gan ei ddryllio, ac ymdywallt i'r llofft yn garnedd fawr ar wely yno, yn yr hwn, drwy drugaredd, nid oedd neb yn cysgu y noswaith hono. Parodd hyn ddychryn nid bychan i'r teulu, cyfodasant o'u gwelyau, a chafodd y ferch hynaf anwyd trwm, yr hwn, yn nghyd â'r dychryn, a'i daliodd pan oedd eisioes mewn cyflwr o fawr wendid, ac a fu yn foddion i brysuro o leiaf ei marwolaeth. O'r dydd hwnw allan, parhaodd i nychu a gwaelu hyd ei thrancedigaeth. Yr oedd ef yn neillduol o hoff o'i ferch hon, ac yn wir, yr oedd pawb a'i hadwaenent yn ei mawr hoffi, o herwydd ei symledd duwiolfrydig, ei challineb dymunol, ei thymher hynaws, a'i hymddygiad caredig a llednais. Rhaid fod edrych ar y fath flodeuyn prydferth yn gwywo gerbron ei lygaid o ddydd i ddydd, yn ergyd trwm iawn i'w deimladau; gweled yr hon oedd dymuniant ei lygaid, ag oedd erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i gymmeryd gofal llywodraeth amgylchiadau ei dŷ, a'r hon y gobeithiasai y cawsai weinyddiaeth ei llaw dyner yn nyddiau henaint a nychdod; ei gweled yn prysuro ymaith o'i flaen, ar ol ei mham, ac yn arwyddo y buasai iddi yn fuan ei adael ef a'r plant ieuengaf yn amddifaid wylofus ar ei hol, oedd raid fod yn chwerwder chwerw iddo. Ond er llymed oedd y prawf hwn iddo yn ei wendid, ymgynnaliodd dano uwchlaw pob dysgwyliad, fel y cafwyd achlysur i sylwi o'r blaen. Llewyrchodd ei nodwedd fel Cristion ymroddgar, fel plentyn ymostyngar i ewyllys ei Dad nefol, yn dra rhagorol yn ystod amser y profiad tanllyd hwn. Nid ymroddiad costogaidd ysbryd ystyfnig, yr hwn a "chwanega ddig," ond "ni waedda," pan groeser ei ewyllys a'i deimlad, oedd yr eiddo ef, ac nid un tawel yn unig ydoedd, ond un siriol ewyllysgar, parod a llawen, ymddangosai yn hollol megys pe na buasai ganddo un ewyllys na theimlad o'r eiddo ei hun yn yr achos. Pregethasai lawer ar y rhinwedd Cristionogol hwn, ac yn awr nerthwyd ef yn rhyfedd i osod esiampl ragorol o honi. Mynych y dywedai wrth ei chyflwyno mewn gweddi, "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymmer hi, a chymmer dy ffordd gyda hi."
Mawr oedd gobaith a dysgwyliad ei gyfeillion, buasai gwyneb blwyddyn tymmor hâf y fl. 1839, yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl ferch; ond nychu, a gwaelu yn brysur oedd