rhy wanaidd i ymddyddan nemawr, ond yn dra thawel a siriol. Gyda'n bod ni yno y waith hon, daeth y meddyg i mewn, yr hwn a gaeth-waherddai ollwng dyeithriaid i mewn ato, felly yn fuan, canasom yn iach iddo am byth ar y ddaear, ac ymadawsom. Meddyliem mai ei deimlad y pryd hwn oedd, "O hyn allan na flined neb fi."
Un noson yr oedd yn dwys ocheneidio, Mrs. Edwards, (o Gadwgan gynt, yr hon a fu yn gymmwynas-wraig dirion iddo ef a'i ferch drwy ystod eu cystudd,) a nesaodd at y gwely, a gofynodd iddo pa beth oedd yr achos, "Achos eneidiau dynion, (meddai yntau,) A oes dim a fedrech chwi wneyd tuag at achub eneidiau, Mrs. Edwards?" "Fe allai y gallwn wneyd mwy, pe byddwn fwy yn y goleu," ebe hithau. "Ië, ïe, (meddai yntau,) mwy yn y goleu am eu gwerth."
Nos Lun, yr 16eg o Fawrth, dymunodd gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos; ac wedi eu cael ato, ymddyddanodd gryn lawer â hwynt yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gynghorion iddynt. Wedi iddynt fyned ymaith, sylwyd ei fod yn colli ei wybodaeth ac yn prysuro ymaith, a'r boreu trannoeth oddeutu naw o'r gloch, a WILLIAMS o'r Wern nid oedd mwyach! Bu farw ar y 17eg o Fawrth, 1840, yn y 59 fl. o'i oedran.
Ar y 25ain ymgasglodd tyrfa luosog iawn o gyfeillion i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo, drwy ganlyn ei farwol ran i dŷ ei hir gartref. Wrth y tŷ, cyn cychwyn y corff, darllenodd a gweddiodd y Parch. A. Jones, Bangor; a'r Parch. Dr. Raffles, Llynlleifiad; yna cychwynwyd tua'r Wern.
Aed â'r corff i'r capel, a dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y brawd S. Roberts, Llanbrynmair; cyfarchwyd y gynnulleidfa mewn areithiau byrion ac effeithiol gan y brodyr Pearce, o Wrecsham; Jones, o Lanuwchllyn; a Jones, o Ddolgellau. Drachefn wrth y bedd, traddododd y brodyr Rees, Dinbych, a Dr. Raffles, anerchion byrion; a chyn ymwasgaru, gweddiodd ei hen gyfaill, Roberts o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd o leiaf bumtheg ar hugain o weinidogion yn bresennol.
Y Sabboth canlynol traddodwyd pregethau angladdol iddo gan agos yr holl weinidogion ag oeddynt yn bresennol yn y claddedigaeth, a chan lawer ereill hefyd. Cyflawnwyd y gwasanaeth hwn, y Sabboth hwnw, yn y Wern a'r Rhos, gan