Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/58

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

PERSON A NODWEDD MR. WILLIAMS.

O RAN ei berson, yr oedd Mr. WILLIAMS o daldra canolig, ac yn wr o gorff lluniaidd, lled gadarn ei wneuthuriad, ond yn hytrach yn deneu; o bryd a gwedd serchoglawn a dymunol, yn neillduol pan fyddai delweddau ei feddwl wedi derchafu i'w wynebpryd wrth bregethu, neu y pryd y byddai wrth ei fodd mewn cyfeillach. Ei lygaid yn benaf oedd arwyddnod o fawreddusrwydd ei feddwl: cymhwysder ei faintioli a'i osodiad, dull ei droad a'i ddynodiant (expression) oeddynt ddigon i beri i unrhyw graff-sylwydd, er yn anghydnabyddus ag ef, ddysgwyl cael rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin yn ei berchenog. Ond y meddwl oedd y dyn, ac awn rhagom i geisio rhoddi desgrifiad o'i ansawdd, ei deithi, a'i gynheddfau ysplenydd, y rhai ydynt etto yn gweithredu gyda bywiogrwydd a nerth anfarwol a chynnyddol yn nedwydd fyd yr ysbrydion, pan y mae y cyfrwng trwy yr hwn y gweithredent ac yr amlygent eu hunain yma i ni, yn llygru yn mro dystawrwydd a marwoldeb.

1. Yr oedd wedi ei gynhysgaeddu â gradd helaeth iawn o synwyr cyffredin, yr hyn a'i cymhwysai i fod yn gynghorwr doeth a da. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth o amgylchiadau a galwedigaethau cyffredin bywyd, ynghyd ag adnabyddiaeth ddofn o'r natur ddynol, a'i galluogai i draethu synwyr, a bod yn gyfarwyddwr call ar unrhyw achos. Ystyrid ei farn a'i gyngor o bwys a gwerth bob amser mewn pethau cyffredin, yn gystal â materion eglwysig; ac ar ol ei "'ymadrodd ef ni ddywedid eilwaith." Nid oedd na phruddglwyf na phengamrwydd (eccentricity) yn perthyn iddo yn y mesur lleiaf; ffieiddiai y dybiaeth a goleddir yn rhy gyffedin o fod y fath dymherau yn elfenau hanfodol i ffurfio y nodwedd o ddyn mawr; a meddyliai fod llawer wedi llafurio i geisio ffurfio pruddglwyfiaeth a phengamiaeth i'r dyben gwael o gael eu cyfrif yn ddynion mawrion gan ddynion ffolion. Yn mysg y cyffredin, a chyda phethau cyffredin yr oedd ef bob amser fel dyn cyffredin arall; cuddiai bob ymddangos-