ddo ar bob peth a fyddai o werth ei ddal a'i gofio; a thradd odai ei sylwadau yn ei briod-ddull daràwgar ei hun, yr hon oedd yn neillduol gyfaddas er argraffu ei bethau ar y côf. Yr oedd yn neillduol o hoff er ys cryn amser i ymddyddan am y nefoedd, carai dynu darluniadau o natur ei gwaith a'i chymdeithas yn fawr. "Yr wyf yn tybied, (meddai unwaith,) na bydd y nefoedd yn lle mor ddyeithr i mi; yr wyf wedi bod yn meddwl cryn lawer am dani yn ddiweddar; y mae genyf lawer o gyfeillion anwyl a hoff yno, yr wyfyn sicr; ac y mae arnaf gryn hiraeth am eu gweled weithiau, ac am fod gyda hwynt; Jones o Dreffynnon; a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, a Rebecca hefyd," (sef Mrs. Williams.) Dro arall wrth son am y nefoedd mewn cyfeillach, dywedai, "Os yw tybiaeth Dr. Dick o Scotland am y nefoedd yn gywir, y byddant yn dysgu y celfyddydau ynddi, y mae yn sicr mai i ddysgu y gelfyddyd o spelio y troir fi yn gyntaf oll yno." Am ei nodwedd gyfeillgar, sirioldeb, addfwynder, a graslonrwydd ei dymher, ysgrifenai y Parch. Dr. Raffles ataf fel y canlyn:" Am yr hyn ydoedd fel pregethwr, nis gallwn wybod dim ond yn unig drwy dystiolaeth ereill; ac a gasglwn oddiar weled yr effeithiau a ganfyddwn fod yn cael eu cynnyrchu ar y gwrandawyr a ddeallent yr iaith yn yr hon y llefarai. Am yr hyn ydoedd fel dyn ac fel Cristion, cefais y fantais a'r hyfrydwch i wybod ychydig drwy fy sylw a'm profiad personol; a gallaf sicrhau fod pob cyfleusdra y cefais y fraint o fwynhau ei gyfeillach, yn dyfnhau fwy-fwy yn fy meddwl yr argraff o wresogrwydd ei dduwiolfrydedd, a hynawsedd ei galon. Dywedais lawer gwaith, fy mod yn ei gyfrif yn un o'r nodweddau hawddgaraf a siriolaf, o'r rhai y cefais erioed yr hyfrydwch o'u hadnabod. Meddyliais lawer gwaith pan yn ei gymdeithas, am yr iaith brydferth a ddefnyddiodd Andrew Fuller, pan yn son am y diweddar Mr. Pearce, o Birmingham, "Tyner fel hwyrddydd hâf, a hyfryd-ber, fel rhôs Mai."
Er ei fod, fel y sylwyd, o'r fath ansawdd fywiog a siriol o ran tymher ei feddwl, yr oedd ganddo lywodraeth nodedig ar ei ysbryd a'i deimladau. Nid un o'r cyfryw fawrion nad allant byth oddef eu gwrthwynebu heb ffromi ac ymddigio oedd WILLIAMS, ond hollol i'r gwrthwyneb, pan fyddai pump neu chwech wedi cyd-ymosod arno, fel y gwelais un waith, mewn dadl, ac oll wedi gwresogi dros eu pwnc, yr oedd ef yn bwyllog a thawel yn eu canol, yn amddiffyn ei