Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

olygiadau ar y mater. Goddefai sèn neu anfriaeth bersonol oddiwrth rai annheilwng o'r fraint o ddwyn ei esgidiau; heb gymmeryd arno eu clywed, neutröai y peth heibio gyda gwen, a rhwymai i fynu dafod y senwr. Yr oedd yn gyffelyb i Moses, yn un o'r llarieiddiaf o feibion dynion.

3. Yr oedd yn dyner a gofalus iawn am deimladau ereill. Arferai ddywedyd yn aml, nad oes gan neb fwy o hawl i dòri ar draws teimladau arall, nag a fyddai ganddo i gymmeryd cyllell a thòri archoll ar ei fys, neu ryw ran arall o'i gorff; ac o'r ddau, mai mwy dewisol fuasai ganddo ef gael ei archolli yn ei gnawd nag yn ei deimladau bod yn haws gwella archoll ar ryw aelod, nag archoll teimlad; y dylai teimladau eu gilydd gael eu hystyried gan ddynion yn bethau rhy dyner a chyssegredig i chwarae a chellwair gyda hwynt; ac na ddylid byth eu cyffwrdd heb fod achos neillduol yn galw am hyny; a bod amean cywir at wneuthur lles i'r person bob amser drwy hyny. Dengys hyn fod ganddo deimladau tyner iawn ei hunan, ond ei fod wedi ei gynnysgaeddu â gras a synwyr yn ehelaeth i gadw llywodraeth ar ei nwydau, fel ag i beidio ffromi a chythruddo, fel y sylwyd, pan gyffyrddid â hwy. Ond yn benaf dim, yr oedd ganddo ofal neillduol rhag dolurio teimladau dynion duwiol. Clywais ef lawer gwaith yn dywedyd, "O! ni fynwn er dim ddolurio teimladau dyn duwiol, os gallwn beidio; it is a dreadful thing." Yn mhlith ei resymau dros fod yn Ddirwestwr, yr oedd hwn yn un "Hwyrach," medd efe wrth areithio unwaith, "yr ewyllysiech glywed y rhesymau a barasant i mi ymuno â'r gymdeithas, dyma un o honynt: yr oeddwn yn gweled fod y dynion duwiolaf, (o leiaf y rhai a olygwn i felly bob amser,) yn mhlith gweinidogion ac eglwysi, yn dechreu myned yn ddirwestwyr, a meddyliais y byddai yr holl ddynion ag yr oedd genyf fi feddylian uchel am eu duwioldeb, yn wyr llen a lleyg, yn ddirwestwyr yn fuan iawn; a gwelais, os nad ymunwn innau â'r gymdeithas, y byddwn ar eu ffordd, ac y doluriwn eu teimladau, a hyny ni fynaswn ar un cyfrif ar wyneb y ddaear. Felly ymroddais i'r penderfyniad o fyned ar ol y rhai oeddynt wedi blaenu, ac achub y blaen ar y lleill, a hyny gynted ag y gallwn; a gwelaf erbyn hyn, mai fel y rhag-dybiaswn y mae pethau wedi dygwydd; ac ni fynwn, er yr oll a fedd y ddaear, fod yn wrthddirwestwr heddyw, heb son am ddim ond yr ystyriaeth unigol hon. Annogwn fy nghyfeillion gwrthddirwestol i ddyfod trosodd