cyffelyb, oedd yr ateb. "Wel, wel, (meddai yntau,) dyn a fyn fyned i uffern ydyw, er pob peth." Dengys yr ychydig enghreifftiau uchod, allan o'lawer o'u cyffelyb, mor dyner oedd ei gydwybod, ac mor ofalus oedd y gwas ffyddlawn hwn am onestrwydd a chywirdeb.
5. Yr oedd yn hynod hefyd o ran ei ysbryd rhydd a diragfarn. Meddai ar feddwl rhy eangfrydig i gulni a rhagfarn gael nawddle o'i fewn. Nid ffug-ymddangosiad o ryddfrydigrwydd yn unig yn y cyhoedd oedd yr eiddo ef; ond y peth a ymddangosai ei fod yn y cyhoedd, ydoedd mewn gwirionedd. Anadlai yr un ysbryd rhydd a diragfarn tuag at frodyr o enwadau ereill, yn ei gyfeillach gyda'i frodyr ei hun, ag a arferai osod allan yn ei bregethau a'i areithiau. Dywedai yn fynych ei fod wedi penderfynu gwneyd ei oreu tra y byddai byw i ladd rhagfarnau Cristionogion tuag at eu gilydd. Llawenhäai yn fawr wrth weled undeb a chyd-weithrediad y gwahanol enwadau yn yr achos Dirwestol; ac ofnai yn fawr rhag i ddim ddygwydd i oeri a dyrysu yr undeb hwn. "Y mae pob sect newydd (meddai unwaith) yn wrthddrych eiddigedd a rhagfarn yr hen sectau: felly yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd yn eu hymddangosiad cyntaf. Edrychai yr hen sectau arnynt fel rhyw bethau echryslon a niweidiol iawn; dynodid hwy fel rhyw gyfeiliornwyr ofnadwy; ond gwelir erbyn heddyw pa fawr ddaioni a wnaethant. Pe codai rhyw sect newydd etto yn y wlad, codai yr hen yn ei phen yn ddiatreg. Yn wir, o'm rhan fy hun, dymunwn i'r Arglwydd godi rhyw sect neu sectau newyddion yn Nghymru, i ỳru eiddigedd ar yr hen rai, a'u codi i fwy o fywyd a gweithgarwch.'
"O! (meddai dro arall,) y mae yn rhaid fod ysbryd cul a rhagfarnllyd Cristionogion yn rhywbeth ffiaidd a drewedig iawn yn ffroenau y nefoedd: 'Canys nid yw Duw dderbyniwr wyneb, oblegid yn mhob sect, yr hwn sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.' Byddaf yn meddwl yn sicr nad oes dim yn ddamniol gyfeiliornus mewn un sect ag y gwelom arwyddion fod Duw yn bendithio ei hymdrechiadau : Os rhoddes Duw iddynt hwy yr Ysbryd Glân, pwy ydym ni i allu luddias Duw?' Ysbryd brwnt yw hwnw ag y mae llwyddiant plaid arall o Gristionogion yn boen ac yn ofid iddo; ysbryd lluddias Duw ydyw! Pe gallai hwn, ni chai neb byth yr Ysbryd Glân ond ei enwad ef. Os rhoddes Duw i ni, yr Annibynwyr, yr