Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

Ysbryd Glân, na edryched ein brodyr o enwadau ereill yn gul arnom. Os rhoddes efe yr Ysbryd Glân iddynt hwythau, na edrychwn ninnau yn gul, ac na feddyliwn yn gyfyng am danynt; derbyniwn ein gilydd megys ag y 'derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.' Nid oes gan Gristionogion amser i daeru a dadleu â'u gilydd ar y ffordd; y mae eu hamser yn rhy werthfawr, a'u gwaith yn rhy bwysig."

Cofir yn hir gan y rhai oeddynt yn bresennol, am y dull tra effeithiol yr adroddai hanesyn, gan wneyd cymhwysiad o hono at ei hoff-bwnc hwn, sef undeb a chariad rhwng Cristionogion â'u gilydd, mewn cyfarfod cyhoeddus yn RhosLlannerchrugog: "Yr wyf yn cofio (meddai) fy mod unwaith yn ymddyddan â môr-filwr, yr hwn a adroddai i mi gryn lawer o'i hanes a'i helyntion; dywedodd mai y frwydr fwyaf ofnadwy y buasai ynddi erioed, oedd un a gymmerodd le rhwng y llong yr oedd ef ynddi, a llong arall berthynol i Loegr, pan ddygwyddasant gyfarfod eu gilydd yn y nos, a chamgymmeryd y naill y llall. Tybiai y naill, a thybiai y llall ei bod yn ymladd yn erbyn llong Ffrengig. Lladdwyd amryw ar fwrdd y ddwy, ac anmharwyd a drylliwyd y ddwy lestr yn fawr iawn. Ond erbyn goleuo y boreu, mawr oedd eu syndod a'u gofid, pan welodd y naill fanerau Lloegr yn chwarae ar y llall, ac y deallasant eu bod wedi bod y nos o'r blaen yn ymladd â'u gilydd mewn cam-gymmeriad! Nesâodd y naill at y llall; cyfarchasant eu gilydd, a chydwylent mewn gofid a chydymdeimlad. Tebyg iawn i hyn y mae Cristionogion yn y byd hwn; y naill enwad yn cam-gymmeryd y llall am elyn; nos ydyw—methu adnabod eu gilydd y maent. Beth fydd y syndod pan welant eu gilydd yn ngoleu byd arall—pan gyfarfyddont eu gilydd yn y nefoedd, wedi bod o honynt yn saethu at eu gilydd yn niwl y byd hwn! Pa fodd y byddant yn cyfarch eu gilydd yno, wedi dyfod i adnabod y naill y llall, wedi bod yn clwyfo ac yn gwaedu eu gilydd yn y nos! Ond dylent ddysgu aros i'r dydd dori cyn gollwng at eu gilydd, bid a fyno, fel y gallont fod yn sicr o beidio â saethu cyfeillion mewn cam-gymmeriad."

6. Ei ysbryd cyhoeddus hefyd oedd yn dra nodedig. Cai pob achos da gynnorthwy parod a siriol ei dalentau a'i arian. Yr oedd fel enaid a bywyd pob sefydliad a chynllun tuag at wasanaethu yr achos yn mhlith yr enwad y perthynai iddo. Er yn sicr na bu neb erioed ddedwyddach gartref nag ef, nac yn hoffi ei gartref yn fwy nag yr oedd efe, etto ni bu neb