Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

dengys ei bregethau sydd yn awr yn cael eu cyhoeddi gan Mr. H. Hughes, y rhai a eglur brofant fod eu hawdwr yn feddiannol ar feddwl wedi ei ystorio â gwybodaeth a phrofiad efengylaidd, ar alluoedd treiddiol ac eryraidd, ar y chwaeth buraf, a boneddigeiddiaf, a'r golygiadau mwyaf llednais a goruchelwych. Ei bregethau, wedi eu gosod mewn argraff ydynt, fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Wrth eu traddodi, byddai y pregethwr megys yn agor mwnglawdd o berlau gerbron ei wrandawyr, yn eu cloddio allan yn lled raddol o un i un, a chan ddysgwyl iddynt eu cymhell eu hunain i sylw yr edrychwyr, nes peri iddynt werthu yr oll a feddent er en pwrcasu, ni ofalai hwyrach gymmaint ag a fuasai ddymunol i'w caboli a'u coethi yn nhân araethyddiaeth, er peri i'w dysglaerdeb tânllyd belydru a gwreichioni yn ngolwg y marchnatawyr; o ganlyniad, elai llawer adref heb ganfod eu gwerth a'u gogoniant, ond pob marchnatawr call a'u gwerthfawrogent. Teimlai mwyngloddwyr enwog ereill yn ddigalon i geisio dangos yr eiddynt hwy yn yr un farchnad â Charles; y Parch. Ebenezer Morris, un ag yr oedd enw mawr iddo, a theilwng hefyd, yn mysg "y deg penaeth ar hugain," a ddywedai wedi ei wrando unwaith, ei fod yn "teimlo yn ddigalon, i feddwl ceisio pregethu drachefn."

Yr oedd Evans, yntau o'r ochr arall, yn eirias drwyddo oll, yn gyffelyb i losgfynydd tânllyd Etna, neu Vesuvius, yn bwrw allan ei lava fel afon ferwedig am ben ei wrandawyr, nes y by ddai eu holl deimladau yn cynneu, ac yn llosgi yn angerdd ei wres anorchfygol. Yr oedd yn ddyfalydd a dychymmygydd heb ei gymmar; personolai ei fater o flaen ei wrandawyr, yn y fath fodd ag a'u gorfodent yn mron i sylwi arno a'i deimlo. Os rhyw amgylchiad a fyddai ganddo i'w ddesgrifio, cerfiai ef mor naturiol, nes y meddyliai pawb yn y lle, mai edrych ar y ffaith mewn gwirionedd y byddent, ac nid gwrando ar ddarluniad neu adroddiad o honi: os moch cythreulig Gaderenia fyddai y testun, parai i chwi feddwl eich bod yn y fan a'r lle, gwelech y genfaint ddieflig yn rhuthro heb yn waethaf i'r ceidwaid, a'u gwrych yn eu sefyll, ac yn treiglo bendramwngl dros y dibyn i'r môr. Dygai chwi i olwg dyffryn esgyrn sychion Ezeciel, arweiniai chwi o'i amgylch ogylch, tybiech eich bod yn gweled yr esgyrn yn wasgaredig ar hyd ei wyneb, eu gweled yn cynhyrfu ac yn dyfod yn nghyd asgwrn at ei asgwrn, giau a chig yn cyfodi arnynt, tybiech glywed y gwynt yn anadlu arnynt, a hwythau ger eich bron yn cyfodi ar eu traed yn llu mawr iawn."