Credech bryd arall wrth ei wrando eich bod yn gweled yr afradlon yn gadael tŷ ei dad, yn ei ganlyn i'r wlad bell, yn dyfod gydag ef yn ei ol, ei weled yn cael ei dderbyn gan ei dad; eich bod yn llygad-dyst, ac yn gyd-gyfranog o'r wledd, y llawenydd, y cânu a'r dawnsio, ac nid yn gwrando un yn desgrifio yr amgylchiad i chwi. Os angeu a buddugoliaeth y groes fyddai yr amgylchiad dan sylw, trosglwyddid chwi i'r lle, meddyliech eich bod yn sefyll yn ngodreu mynydd Calfaria, yn gweled gwrdd-deirw Basan, y cŵn, y llewod, a'r unicorniaid, yn cyd-ymosod ar y llew o lwyth Juda, ac yntau yn eu gorthddrechu, a'u gwasgaru, gan dòri eu dannedd a'u cyrn, nes y byddent fel cessair ar hyd ochr y mynydd. Neu beth bynag arall a fyddai y mater mewn llaw, trinid ef yr un modd, a chyda'r un cyffelyb effeithiau. Y coll, fe allai, oedd, bod ei ddychymmyg weithiau yn rhy grefi'w farn; byddai yn debyg i redegfarch porthiannus, yn prancio ymaith, gan gludo y marchogydd dros furiau a chloddiau, fel na allai bob amser gael llywodraeth briodol arno.
Yn y canol rhwng y ddau, cymmerai WILLIAMS yntau ei lwybr; elai i mewn i drysorau llyfr gras, dygai allan "bethau newydd a hen." Rhyw un o egwyddorion athrawiaethol neu ymarferol teyrnas nefoedd bob amser yn cael ei dwyn a'i gosod allan; eglurai hi gyda'r fath symledd, a dygai hi gerbron yn y fath oleuni, fel y gallai pob un o'i wrandawyr ei gweled a'i deall, byddai ganddo gyflawnder o'r cydmariaethau mwyaf hapus a phriodol er eglurhau ei fater, ac yn y diwedd, gwasgai hi adref at y gydwybod gyda nerth anorchfygol ni byddai yn bosibl i neb yn y lle fod yn ddifater a disylw, ac ni fyddai yn bosibl sylwi a bod heb deimlo.
Er fod ei ddychymmyg o'r fath rymusaf a bywiocaf y bu y meddwl dynol yn feddiannol arni, etto yr oedd bob amser—h. y., dros yspaid yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes—o dan lywodraeth a dysgyblaeth dda, wedi ei chaethiwo a'i dysgu i wasanaethu y mater a drinid, er ei egluro a'i wisgo gyda phrydferthwch a gogoniant. Yr oedd yn ofalus iawn i roddi ei holl dalentau allan er defnyddioldeb cyffredinol : "Usefulness," oedd ei hoff arwyddair, ac at hwn yr oedd yn cyrchu gyda holl nerthoedd ei ddoniau, ei ddychymmyg, a' wybodaeth.
Gallesid enwi un arall o gawri y weinidogaeth, yr hwn, a'i ystyried fel areithydd celfyddgar a meistrolgar, a ragorai ar bob un o'r tri, ond odid; ond gyda golwg ar ddyfnder