deimladau a'i lais, fel un a fyddai yn gwbl feistr arno ei hun, ar ei fater, ac ar ei wrandawyr; fel y byddai yn myned i mewn iddo, ac yn cynhesu ynddo, dechreuai delweddau ei feddwl godi drachefn i'w wynebpryd a'i lygaid, a'r drychfeddyliau ysplenydd hyny a fuasent o'r blaen yn berwi yn ei galon, a ddechreuent ddylifo allan, gan gymmeryd eu hadenydd oddiar ei wefusau, y naill ar ol y llall, nes y byddai yn fuan wedi hoelio pob clust wrth ddôr ei enau, pob llygad o'r dorf a fyddent dano wedi ei sefydlu arno, a phob meddwl wedi ei gylymu wrth ei fater. Weithiau byddai yr holl gynnulleidfa yn gwrando mewn dystawrwydd syn, pob un megys yn arswydo gollwng nac ochenaid nac anadliad uwch nâ'u gilydd allan, a phob gair o'i enau, fel y disgynai ar y glust, yn taro y deigryn dystaw allan o'r cannoedd llygaid a fyddent wedi eu sefydlu arno, ac yn gwylio symudiad ei wefusau! Bryd arall, byddai ocheneidiau, gwenau, a dagrau, i'w clywed a'u gweled, y naill yn dyrchafu o'r fynwes, y lleill yn argraffedig ar y wedd, y lleill yn dylifo o'r llygaid, yn cydgymmysgu â'u gilydd, fel ag y byddai holl deimladau y natur ddynol wedi eu cynhyrfu a'u galw i weithrediad gan "Feistr y Gynnulleidfa." Yr oedd ei lais yn hyglyw i bawb, pa inor luosog bynag fyddai y gynnulleidfa, a'i dôn yn beraidd anghyffredinol, pan fyddai yn ei lawn hwyliau yn traddodi; ac ymddangosai yn myned trwy ei waith yn naturiol, esmwyth, a diboen, heb gymmaint â gwlithyn o chwys ar ei wyneb. Nid trwy ymladd, gorchest, a gorthrech, y byddai byth yn dryllio teimladau ei wrandawyr, ond eu denu, eu hennill yn esmwyth a naturiol, eu tymheru a'u toddi, yn gyffelyb i ddylanwad yr haul ar y cwyr.
Wedi gwneuthur yr ychydig sylwadau cyffredinol uchod ar ei ragoriaethau fel pregethwr, rhaid i ni aros yn fwy neillduol etto, gan fanylu ar rai pethau pennodol ag oeddynt yn elfenau cyfansawdd ei nodwedd gweinidogaethol.
1. Ei wybodaeth gyffredinol. Dan y pen hwn dylid nodi ei wybodaeth ysgrythyrol, anianyddol, ynghyd â'i adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Am ei wybodaeth ysgrythyrol, gellid yn briodol ddywedyd fod ganddo ddeall da ac amgyffred. helaeth o "ddirgelwch Crist." Golygai y Bibl fel llyfr o egwyddorion moesol—fod pob hanes a ffaith wedi ei bwriadu er cynnwys a gosod allan ryw egwyddor—a bod yn anmhosibl ei iawn ddeall, a chanfod ei ogoniant fel llyfr Dwyfol, heb edrych arno yn y goleu hwn. Yr oedd wedi gwneuthur