Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/78

Gwirwyd y dudalen hon

mae y wisg, ond gan yr olaf y mae y cnewyllyn; ond yr un goreu yn sicr yw yr hwn sydd yn uno y ddau ynghyd, a chanddo ffurf yr ymadroddion yn ei gof, a sylwedd neu ystyr yr ymadroddion yn ei ddirnadaeth. Er mai y dosbarth olaf, yn ddiau, yw y gwir ysgrythyrwr, ac na all y blaenaf gael ei gyfrif mewn gwirionedd yn un cyfarwydd a chadarn yn yr ysgrythyrau; etto, yr hwn sydd yn meddu y ddwy ynghyd ydyw yr ysgrythyrwr cyflawn. Felly, yn ol y desgrifiad uchod, yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgrythyrwr mawr a gwirioneddol, er, o herwydd y diffyg rhag-grybwylledig, nad oedd yn ysgrythyrwr cyflawn.

2. Ei wybodaeth anianyddol, neu ei anianddysg. Wrth hon deallir adnabyddiaeth neu wybodaeth o egwyddorion y byd naturiol. Yr oedd ef yn wir hoffwr natur; ac nid yn unig yn ddarllenwr gweithiau ereill ar wahanol gangheni y wybodaeth hon, ond yn sylwydd a myfyriwr gwreiddiol o honynt ei hun. Yr oedd ganddo amryw ddyfalion (conjectures) o'i eiddo ei hun am egwyddorion a deddfau y gwynt, y gwlaw, y taranau, &c.; pa mor gywir oeddynt, nid yw yn ngallu, nac yn perthyn i'r ysgrifenydd farnu; ond crybwyllir hyn er prawf ei fod ef yn hoffwr a myfyriwr anian. Carai rodio ar hyd meusydd an fesurol y greadigaeth, fel y galwai hwynt: yr oedd yn rhyfeddol o hoff o weled y mellt a chlywed y taranau, a son am eu deddfau; ac felly holl wrthddrychau ereill natur, fel ag y byddai ganddo ryw beth wedi ei feddwl am bob gwrthddrych yn mron. Yr oedd yn sylwydd ar, ac yn fyfyriwr o natur yn yr un dull ag y myfyriai yr ysgrythyrau, fel ag mai nid prydferthwch a gogoniant geirweddiad y Bibl a darawai ei feddwl, ac a effeithiai ei galon yn benaf, ond ei sylwedd a'i egwyddorion; felly gwrthddrychau y byd anianyddol, nid yr olwg arnynt yn benaf nac yn gymmaint, (er yr hoffai hyny,) a gynhyrfent ei sylw, ac a ddiwallent ei chwaeth, ond eu deddfau a'u hegwyddorion, y rhai hyn a ystyriai fel enaid anian, yn nghyfansoddiad y rhai, yn nghyd â chywirdeb a rheoleidd-dra difeth eu gweithrediadau, yr ymddengys mawredd, dyfais, a doethineb y Creawdwr yn fwy gogoneddus nag yn nullweddiad y pethau a lywodraethir ganddynt. Dywedai yn aml "bod ei ddeddf yn perthyn i bob peth, a bod rhyw ddarganfyddiadau rhyfeddol etto i gael eu gwneuthur yn neddfau natur,—bod dirgeledigaethau y ddoethineb hon yn ddau cymmaint â'r hyn sydd" wedi ei gael allan. "Pe deallem natur yn well, (meddai,) byddai yn