Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

ag yr aeth i rodio heolydd Lynlleifiad yn butain gyffredin. Gyrfa o halogrwydd a wanychodd ac a ddinystriodd ei hiechyd a'i chyfansoddiad yn dra buan; dygwyd hi i'r edifeirdy (penitentiary) yn wrthddrych o drueni a gresyndod. Gwasgwyd gwirioneddau crefydd at ei meddwl yno, a gwelwyd hi, fel y bechadures yn nhŷ Simon gynt, yn golchi traed Gwaredwr pechadur â'i dagrau, a rhoddodd arwyddion gobeithiol o wir ddychweliad, a bu farw dan fawrygu a chanmol gras y Ceidwad. Etholedigaeth yn ei gwaith.

"4. Gwr meddw. Buasai unwaith yn ddyn parchus yn y gymmydogaeth; ond trwy ddilyn oferwyr, aethai wedi hyny yn ddiotwr, ac o'r diwedd, yn feddwyn hollol. Collodd ei gymmeriad a'i barch; diflanodd ei serch tuag at ei briod a'i blant; hollol esgeulusodd foddion gras. Yr oedd ei nodwedd, ei amgylchiadau, a'i gysuron teuluaidd, wedi eu llwyr ddyfetha; ei iechyd a'i gyfansoddiad hefyd oeddynt yn rhoddi y ffordd yn brysur. Yr oedd ei galon wedi caledu, a'i gydwybod wedi ei serio, a phob argraffiadau crefyddol yn mron wedi eu llwyr ddileu o'i fynwes. Daeth cyfarfod Dirwestol i'r gymmydogaeth lle yr oedd yn byw; daeth awydd arno yntau i fyned iddo; ennillwyd ef i arwyddo yr ardystiad; cadwodd ato; dechreuodd ymarfer â'r Bibl, yn lle â'r ddiod feddwol; dechreuodd gyrchu i'r ysgol Sabbothol a moddion gras; cafodd y gwirionedd argraff ar ei feddwl; daeth yn greadur newydd yn Nghrist Iesu, ac y mae yn awr yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw. Etholedigaeth yn ei gwaith., Yr etholedigaeth a'i cafodd.'

"Oddiwrth y ffeithiau uchod, y rhai a nodwyd yn unig fel ychydig enghreifftiau allan o filoedd, y mae y casgliadau canlynol yn naturiol a theg:—

"1. Y mae yn amlwg na allasai dim llai na gallu a dylanwad Dwyfol effeithio y fath gyfnewidiadau.

"2. Rhaid oedd fod y cwbl yn ffrwyth bwriad ac amcan—nid dygwyddiad a damwain.

"3. Rhaid fod y bwriad a'r amcan hwn yn dragywyddol: 'Hysbys i Dduw ei weithredoedd oll erioed.' Nid oes dim newydd yn dyfod i'w feddwl.

"4. Nid allai fod dim yn y gwrthddrychau yn teilyngu y fath garedigrwydd.

"5. Ni all fod y fath gyfnewidiad grasol ar y fath wrthddrychau yn taflu un math o ddianrhydedd ar nodwedd Duw, mewn un modd, ond yn hytrach yn tueddu i'w ogoniant a'i glod.

"6. Ni welwch ddim yn y ffeithiau i galonogi pechaduriaid i esgeuluso eu dyledswydd, ac i beidio ymarfer â phob moddion o ras yn eu cyrhaedd. "

7. Nid oes un tuedd ynddynt i yru neb i anobaith.

"II. Gwrthodedigaeth. Y gwrthodedigion yw y rhai hyny a fyddant golledig yn y diwedd, a hyny o herwydd iddynt wrthod edifarhau a dychwelyd.