neb arall ei ddysgu, oedd WILLIAMS; nage, ond un gostyngedig, parod i dderbyn pob peth da a gaffai gan bawb; gwella a wnai WILLIAMS trwy bob peth a'i cyfarfyddai, a thrwy bob triniaeth a gaffai. Dywedai lawer yn erbyn y pregethau nad oedd amcan daionus i'w weled yn amlwg ynddynt; nad eisiau myfyrio pregeth ddigon o hyd i dreulio amser oedfa, a ddylai fod mewn golwg gan bregethwyr, ond ei chyssylltu â'i gilydd yn y modd ag y byddai amcan mawr pregethu i'w weled yn eglur trwyddi oll. Dywedodd wrthyf amryw weithiau ei fod wedi newid ei archwaeth at bregethu, yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, lawer iawn oddiwrth yr hyn ydoedd yn nechreuad ei weinidogaeth; y tybiai gynt fod pregethu y pwnc yn eglur a dawnus yn ddigon o bregethu, ond ei fod yn awr yn gweled yn eglur, mai pregethu y cyfan i ymarferiad oedd y gamp, ac mai amcan mawr yr holl Fibl ydoedd dwyn dyn i ymarferiad rhinweddol.
Y diweddar Barch. W. Griffiths, o Glandwr, a ofynai i Mr. WILLIAMS ryw dro, (fel y byddai arferol o siarad yn rhydd a difalais,) wyddoch chwi, Mr. WILLIAMS, pa fodd y mae eich pregethau chwi yu dwyn mwy o sylw nâ fy rhai i?" "Na wn i," meddai Mr. W. Wel, mi ddywedaf i chwi," eb efe; "yr ydych chwi yn rhoddi gwell myn'd ynddynt nâ myfi." Yr oedd mynediad rhwydd a grymus yn mhregethau Mr. W., y materion yn bwysig, a'r dull o'u trin yn eglur nodedig. Anhawdd y diangid o dan swn ei weinidogaeth heb i'r gydwybod haiarnaidd deimlo.
Meddyliwn mai ychydig a ysgrifenodd ein cyfaill yn ystod ei weinidogaeth. Bum yn ceisio ganddo lawer gwaith ysgrifenu rhai o'i bregethau rhagorol i'r DYSGEDYDD; ond pur gyndyn a fyddai i addaw gwneyd, o herwydd, meddai efe, nad oedd ganddo fedr na blas i ysgrifenu—fod ei law mor belled yn ol o ganlyn ei feddwl, fel yr oedd yn gyffredin yn dyrysu pan elai at y gwaith. Y bregeth gyntaf a gefais ganddo ei hysgrifenu, nid yw yn y DYSGEDYDD, ond a argreffais wrthi ei hun trwy ei gydsyniad ef, ac a ail-argraffwyd wedi'n gan y Parch. L. Everett, o Lanrwst. Ei mater ydyw, "Nad yw daioni dyn ddim i Dduw." Y pregethau y cefais ganddo eu hanfon i'r DYSGEDYDD, ydynt ar "Gyssondeb gras a dyledswydd," (gwel fl. 1822;) "Unoliaeth y Drindod," (gwel 1827;) "Cyssylltiad cyfatebol rhwng iawn ymarferiad o foddion a llwyddiant," (gwel 1831;) ac ar "Iawn Crist," (gwel 1832.) Ysgrifenodd hefyd draethawd byr ar " Ddyfodiad pechod i'r byd," (gwel 1828;) ac ar "Lywodraeth foesol," (gwel 1829;) ynghyd ag ychydig o fan bethau ereill. Y mae ganddo liaws o esgyrn pregethau, y rhai a ddefnyddid ganddo ei hun, fel y gŵyr llawer. Gobeithaf, a gobeithia llawer weled llawer o honynt yn argraffedig yn hanes ei fywyd.
Yn ei deithiau byddai Mr. WILLIAMS yn ofalus iawn am gychwyn yn brydlawn i bob man y byddai ei gyhoeddiadau; ac yn y manau y byddai yn bwyta neu yn lletya, byddai yn wastad yn ymgais am gael rhyw