Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

ALWN Adams yn Ddoctor yn y Cofiant hwn am y cysylltwn fwy o bwys âr ysbryd na'r llythrenol; yn union fel y buasem yn cyfrif dyn ieuanc yn B.A. wedi iddo ennill y gradd, er iddo fod heb ei dderbyn yn ffurfiol.

Nid encomium ar Adams yw'r llyfr; ac nid y math ar gofeb (memoir) nad yw ond coronbleth o ragoriaethau'r ymadawedig wedi eu dethol gan ddwylo serch yn deyrnged i'w goffadwriaeth. Y mae yn fwy na hyn,—mwy yn ei ymgais, ei gylch, a'i anhawster : amcana at roddi hanes bywyd Adams ymhob agwedd arno ar hyd ac ar draws, i fyny ac i lawr, ac atgynhyrchu nodweddion ei bersonoliaeth (mor bell ag y gallem wneuthur hynny mewn geiriau) ar ochr meddwl a moes, yn ei chryfder a'i gwendid, ei mawr a'i bach. Yr ydym, o ganlyniad, wedi ei feirniadu yma a thraw, ac wedi galw sylw at ei ddiffygion yn ogystal â'i ragoriaethau. Diau inni fethu'n aml, ond lle teimla'r darllenydd mai felly y mae, gwnaiff fwy o degwch â ni—ac â'i enaid ei hun—os priodola hynny i fethiant mewn barn yn hytrach nag i ryw fwriad neu deimlad arall. Ni allwn wadu na feddwn deimladau cynnes a pharchus at yr ymadawedig a'i goffadwriaeth, ond yr ydym yn ddigon hen. bellach i wahaniaethu rhwng y rheiny a'r gwirionedd, ac yn ddigon moesol a gwyddonol, ni a hyderwn, i beidio â chymryd ein cludo ymaith ganddynt oddiwrth y gwir a'r gonest.

Yr ydym yn ddyledus am help gwerthfawr a pharod i lawer, ond yn arbennig i'r rhai â chanddynt ysgrifau yn y Cofiant —ysgrifau sydd yn ddigon rhagorol i ni beidio â'u canmol. Nid ydym ni yn gyfrifol am olygiadau yr ysgrifenwyr ; cawsant bob rhyddid i ddatgan eu barn heb unrhyw gyfyngiadau o'r eiddom ni; eto llawenhawn eu bod, ar y cyfan, yn cydgordio cystal â gweddill y Cofiant. Cawsom addewid nas cyflawnwyd gan eraill. Yn arbennig, y mae un arwedd ar fywyd Adams, sef ei gydymdeimlad a'i gyfeillgarwch â phregethwyr ieuainc, yn fwyaf neilltuol y rhai meddylgar a darllengar—ac os heb fod yn rhy uniongred, goreu i gyd—nad yw'n cael y sylw a ddymunasem yn y gyfrol, am i ddau o'r cyfryw ein siomi wedi addo. Credwn, serch hynny, nad ar eu calon y mae'r bai yn gymaint ag ar eu hewyllys.