Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Derbyniasom bob help, fel arfer, yn Llyfrfaoedd Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd; a chan awdurdodau ysgol Talybont, Ystradgynlais a'r Bryn, Llanelli, i archwilio hen logbooks amser bore Adams; a chaniatad parod perchenogion Y Brython, Y Dysgedydd, Cymru a'r Geninen i ddyfynnu ohonynt.

Yr ydym dan ddyled eithriadol mewn perthynas â dyddiau maboed Adams i'w dri hen gyfaill yn Nhalybont, Richard Jones, William Davies (cefnder), a Dafydd Edwards—tri gŵr o wreiddioldeb a diwylliant nas ceir yn aml ym mhentrefi'n gwlad, ac yn cyfuno â hynny serch a pharch mawr at eu hen gyfaill. Dymunwn hefyd gydnabod dau o'i hen ddisgyblion ym Mryngwenith. am eu hatgofion, sef Evan Jones a Dafydd James; a'r Parch. T. Lloyd Jones, B.A., B.D., am help mewn llythyrau, atgofion, cofnodion a chyfnodolion.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf, dymunwn ddiolch i Mr. J. H. Jones, Golygydd Y Brython, am ddarllen y Cofiant a'r proflenni, a rhoddi inni ei help dihafal gyd â'r iaith.