Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT

Y PARCH. DAVID ADAMS.

I. EI GYLCHFYD BORE.

PENTREF hir, a wneir i fyny braidd yn hollol o un stryd, ar ochr y ffordd fawr a rêd o Aberystwyth i Fachynlleth, yw Talybont; ac yn agos i'w waelod, yn sŵn yr afon Ceulan, y ganwyd Dafydd Adams, Awst 28, 1845. Enwau ei rieni oedd John a Margaret Adams. Mwnwr o Gilcen, sir Fflint, oedd ei hendaid, a daeth mab iddo ef i Dalybont i fod yn arolygydd gwaith y Maesnewydd. Mab iddo yntau ydoedd John Adams a briododd Margaret Davies, Llwynglasbach. Bu iddynt bump o blant, i gyd i raddau mwy neu lai yn berchen nodweddion meddyliol a moesol uwchlaw'r cyffredin. Dafydd oedd y pedwerydd o'r teulu, ac ynddo ef y cyrhaeddodd y nodweddion hyn eu huchafbwynt.

Nid oedd dim arbennig yn awyrgylch y pentref y pryd hwnnw i roddi cyfeiriad i'w draed i feysydd dysg, na llên, na'r pulpud, er iddo ragori yn y tri. Gwn fod yna enwogion lawer wedi eu codi neu ynteu wedi byw yno; bedd Taliesin, fel y tybir, heb fod ymhell; a phregethwyr fel Dr. Phillips, Neuadd Lwyd, ac Azariah Sadrach wedi cysegru'r fan; ond ni ellid cyfrif y pentref fodd yn y byd yn ganolfan na dysg, na llên, na chrefydd. Diau bod y gwaith mŵn yn cynhyrchu mwy o "rediadau bywyd" ynddo nag a geid mewn pentrefi eraill, er mai dŵr lleidiog yn aml a ddaw gyd â'r rhediadau hynny.

Rhydd hanes ddigon o enghreifftiau inni o natur gref yn gorchfygu cylchfyd llwm, ac yn sugno llawer o nodd