Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynheddfau naturiol na'i fab. Nid yn unig yr oedd yn flaenllaw yn ei eglwys ei hun, ond yr oedd hefyd yn bregethwr cynorthwyol tra chymeradwy, yn unig ei fod rai prydiau, yn rhai o gapeli bychain y cymoedd cyfagos oedd heb gloc, yn anghofio'r amser yn gystal ag oerni neu wres y tywydd yn ei bwnc. Nid oes sôn ei fod yn anuniongred, ond os rhesymwn yn ol o'r ffaith i'w fab dorri i fyny ddosbarth diwinyddol y Prifathro yng Ngholeg Normalaidd Bangor, heb unrhyw ddisgyblaeth ddiwinyddol ond a gafodd gartref, teg inni gasglu bod ei syniadau yn wreiddiol, neu o leiaf na cheisiodd lethu annibyniaeth barn yn y bachgen.

Meddai gryn wybodaeth am anianeg a llysieueg, a medr i wella'r corff (yn ogystal â'r enaid). Yr oedd yn fath o ddoctor gwlad, fel y cân ei fab yn ei farwnad iddo:—

Mor fynych chwiliem gaeau'r wlad
I hel meddygol lysiau mad;
Eu henwau wyddit ti bob un,
A nodwedd eu meddygol rin.
Urddesid di yn" Feddyg " gwlad,
A hybaist gleifion lu yn rhad;
Dy dâl, y pleser o'u hadfer hwy,
A pharch na châi pendefig fwy.

Yr oedd hefyd yn wleidydd cryf a goleuedig—yn un o gedyrn Rhyddfrydig yr ardal. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; a chan fod y tâl yn fach, a'r bwyd yn ddrud, ni chaniatâi ei ddyletswydd i'w deulu iddo lawer o amser i ddarllen y papur newydd, ond câi gan rai bech— gyn darllengar o'r ardal ddyfod i mewn yn hwyr y dydd i ddarllen iddo tra yr elai ef ymlaen â'i waith. Fel rheol byddai ef yn pwyntio allan y darnau y dymunai eu clywed. Diau bod hyn er budd a phleser i'r bechgyn yn gystal ag iddo yntau.