Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er na ddaeth i sylw fel bardd—yn wir nid oes sôn iddo geisio dyfod—ysgrifennodd rai pethau sy'n meddu ar gryn dlysni. Yr oedd yn fwyaf poblogaidd fel prydydd. lecsiwn : nid yw ei ganeuon gwleidyddol ar gael, ag eithrio ambell bennill ar gof Dafydd Edwards. Hawdd credu bod "mynd " ar linellau fel a ganlyn gyd â'u gwawdiaith a'u tinc gynganeddol :—

Harford druan a'i enw'n drewi,
Yn siglo dwylo, ceisio cosi :—
Ymhle buodd, leiciwn wybod,
Dros saith mlynedd heb ei nabod?

Ysgrifennodd emynau teilwng o'r Caniedydd a dywedyd y lleiaf; ond ni a'n cyfyngwn ein hunain i'r penhillion a deifl oleuni ar y bywyd teuluaidd. Pan aeth y merched i Lundain, y mae'n amlwg ei fod yn llawn pryder yn eu cylch, a chawn ef dro ar ol tro yn ei daflu i ffurf cân. Un tro, pan yw'n ofni bod perigl i Jane chwilio dedwyddwch lle nad yw i'w gael, ysgrifenna:—

Yn rhwydd i'th ran pe gallet gael
Yn hael o gyfoeth byd,
A'th wisgo fel brenhines gain
 sidan felfed drud,
A'th wychu gyda dilin aur
A'r gemwaith mwyaf gwiw,
A'r meini godidoca'u gwedd
A gwerthfawroca'u rhyw,

A chael i weini o dy gylch
Lancesau teca'r oes,
A threulio'th ddyddiau oll i ffwrdd
Heb gwrdd ag unrhyw groes;

a gofynna a oes eisiau mwy "i gyrraedd gwir ddedwydd— wch," gan ateb,