Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd business y llanciau a'r llancesau yn cael ei gario mlaen.

2. Codymu a neidio.

3. Taflu y bar a'r goetan, a rhwng y tri pheth hyn parhaai y cyfarfod yn gyffredin o ddwy i dair awr. Dywedir nad oedd nemawr o un yn gallu trechu Isaac yn y campiau hyn, a hawdd iawn genym gredu hyn, o herwydd yr oedd ei gyfansoddiad naturiol yn gryf, a'i freichiau a'i ddwylaw mawrion fel wedi eu bwriadu i wneyd caledwaith. Yn yr amseroedd hyn byddai yn myned aml i dro i wrando pregethu yr Efengyl. Bu yn gwrando lawer gwaith ar y Parch. Mr. Heir, Casbach, yr hwn oedd genad gwrol dros Arglwydd y lluoedd yn y dyddiau hyny. Clywodd hefyd y Parchedigion John Elias a Christmas Evans; ond er cystal eu doniau hwy, nid effeithiai dim er ei ddarbwyllo ef i adael ei ffyrdd drygionus o fyw.

Byddai yn myned gyda'i dad yn aml i Heol-y-felin. Gwrandawodd lawer ar y Parchedigion Howel Powel ac R. Davies, ond nid oedd dim yn tycio er ei ddwyn i'r goleu am ei gyflwr. Ymholai yn aml â'i dad wedi dyfod adref o'r cymundeb, i ba ddyben oedd cymeryd yr elfenau; a meddyliwn fod yr eglurhad a gafodd droiau gan ei dad ar natur y Swper Santaidd a dyoddefiadau y Gwaredwr, wedi bod yn gam pwysig er ei enill at Waredwr. Yr oedd llawer o ddynion cyfrifol yn perthyn i hen eglwys Heol-y-felin yn yr adeg hon, megis P. Rees, Ysw., tad Treharne Rees, Ysw., &c. Heol-y-felin oedd Jerusalem y rhan isaf o sir Fynwy, yn yr adeg hon. Drwg genym weled golwg mor İlwydaidd ar yr achos yno yn awr. Pe byddai rhai o'r hen deidiau yn cael rhoi tro yno ar foreu Sabboth, synent weled y gynulleidfa mor fechan. Yr oedd golwg ardderchog ar gynulleidfa yr hen gapel hwn yn amser y Parchedigion T. Sanders, H. Powel, &c.; yr oedd eu gweled yn ymdynu yno o bob cyfeiriad yn ddigon i greu parch yn meddyliau y trigolion oddiamgylch at grefydd yr addfwyn Iesu.

Yr oedd crefyddwyr yr oes hono yn ystyried fod boreu'r Sabboth mor santaidd a'i brydnawn. Meddyliwn nad yw yr un farn yn ffynu yn awr; o'r hyn leiaf, ni weithir y grediniaeth allan, os yw yno o gwbl,