o herwydd dangosir mwy o barch i gwrdd y nos na chwrdd y boreu; ond yn yr hen amser gynt byddai cyfarfod y boreu yn enwog iawn, ac ni byddai yr un pregethwr yn cael ei demtio i barotoi gwell pregeth erbyn yr hwyr na'r boreu, yn nyddiau boreuol I. M. Harry.
Pan fyddai Isaac yn myned i Heol-y-felin, eisteddai yn gyffredin yn agos i gefn y capel, ac wrth ei ochr eisteddai dyn o'r enw John Williams; byddai John Williams yno yn wastad, ac ni fyddai nemawr oedfa yn myned heibio heb fod John yn wylo y dagrau yn hidl, ond arosai Isaac yn galed a dideimlad. Bu yr eglwys yn dysgwyl am weled John yn dyfod i ymofyn am grefydd, ond nid oedd yno neb yn dysgwyl am Isaac mwy na rhywun arall, ond ei dad; yr oedd ei dad yn pryderus ddysgwyl, o herwydd yr oedd wedi anfon aml i weddi at orsedd nef am i'w fab gael teimlo i fywyd, a chafodd y fraint o weled ei weddiau yn cael eu hateb cyn ei briddo yn y cudd-fedd caeth. Nid â gweddiau y saint yn ofer, ond bendith fawr i rieni yw gweled eu gweddiau ar ran eu plant yn cael eu hateb cyn eu marw.
Pan oedd Isaac yn agos i bump-ar-hugain oed, daeth y Parch. D. Williams o Ferthyr, (M.C.) heibio ar ei dro, a chafodd yntau y fraint, yn mysg ereill, o fyned i'w wrando, ac yn yr oedfa hon, glynodd y saeth yn ei galon-llefarodd ysbryd Duw wrth ei enaid-hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach. Bu yn glaf iawn ar ol hyn am rai wythnosau, ond ychydig oedd ar y Morfa y pryd yma yn deall dim am glefyd o'r fath. Yr oedd y pryd yma newydd briodi â Miss Mary Morgan, o Goed Cernyw; ond er ei fod yn hoff o wraig ei ieuenctyd, a hithau yn hoff o hono yntau, nid oedd hyny yn ddigon i esmwythâu doluriau ei fron. Yr oedd yn byw y pryd yma yn agos i eglwys Llansantffraid, ac yr oedd ganddo yn agos i bedair milltir o ffordd cyn gallu cyrhaedd cyfeillach grefyddol, yn yr hen fan ag yr arferai ei dad fynychu; ond ar ryw ganol dydd, dacw ef yn cychwyn, am y tro cyntaf erioed i'r gyfeillach, yr hon a gynelid am ddau o'r gloch yn y prydnawn. Nid oedd neb dynion yn gwybod y terfysg oedd dan ei fron yn yr amser hwn. Bu amser maith yn myned o'r Morfa i Gasnewydd y tro hwn, o herwydd byddai yn aml yn