yr eglwys weled cymhwysderau ynddo i fod yn rhywbeth mwy nag aelod cyffredin. Bendith fawr i eglwys yw cael dynion o'i mewn â llygad digon craff i weled pwy ddylai esgyn grisiau yr areithfa, a phwy ddylai drigo yn dawel yn ei eisteddle, gan wneyd ei ran fel aelod cyffredin. Cymhellwyd Mr. Harries at y gwaith pwysig o bregethu Crist i'w gyd-greaduriaid. Ië, cymhellwyd ef, nid rhuthro a wnaeth. Byddai yn burion peth i ni gofio yn y dyddiau hyn, mai peth eglwysig yw codi pregethwyr, ac nid peth personol, ac fod yr eglwys a gwyd bregethwr, yn gyfrifol i'r eglwysi o'r bron am ei gymhwysder fel pregethwr. Meddyliwn ei bod yn llawn bryd i'r eglwysi fagu digon o wroldeb a gonestrwydd i ddyweyd wrth lawer un a deimla awydd pregethu, eu bod yn seiri, gofiaid, glöwyr, neu fasnachwyr ardderchog; ac yna gadawer iddynt hwy ddychymygu y rhan arall o'r ymadrodd, ac os bydd dim ynddynt, gwelant yr awgrym yn fuan.
Bu Mr. Harries yn petruso cryn lawer cyn cydsynio â chais yr eglwys, ond o'r diwedd cynygiodd hi, ac yr oedd y cynyg cyntaf yn lled awgrymu i'r hen bobl a'u gwelodd gyntaf, nad oeddynt wedi camsynied yn eu dewisiad. Y tro cyntaf y pregethodd yn gyhoeddus oedd ar brydnawn Sabboth, yn nhŷ Sion Howel, ar y Morfa, yr hwn oedd yn glaf iawn ar y pryd. Nid oedd ond dau yn proffesu crefydd gyda'r Annibynwyr ar y Morfa y pryd yma, sef Mr. Harries a Mrs. James, gwraig Mr. Edward James. Buont felly am rai blynyddau. Byddai brodyr o'r Casnewydd, a rhai a berthynent i enwadau ereill yn y gymydogaeth, yn eu cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddent yn cael pregethwyr yn o aml i dŷ Mr. James. Bu y Parchedigion canlynol yno droion:-G. Hughes, Groeswen; Jones, Llangan; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypwl, &c. Meddyliwyd yn mhen ychydig am gael capel yn y lle, ac amlygwyd y bwriad i Mr. James, yr hwn, yn ol ei garedigrwydd arferol, a roddodd dir iddynt at gapel a monwent, am bum swllt yn y flwyddyn, yr hwn sydd agos cystal a freehold', gan fod hyd y lease yn 999 o flynyddau. Mae y cyfraniadau canlynol tuag at y capel newydd yn deilwng o gael eu coffhau:—