Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

yno y magodd y plant, y rhai oeddent bedwar mewn rhif, sef pedair merch—Anne, Hannah, Mary, a Ruth, tair o'r rhai'n sydd yn fyw yn awr, ac un, sef Mary, wedi huno yn yr angeu, gan adael rhai bychain i alaru eu colled ar ei hol.

Yn y flwyddyn 1841, daeth amgylchiad chwerw i'w gyfarfod, sef marwolaeth ei anwyl briod. Wedi iddynt fod mor hir gyda'u gilydd, nid hawdd oedd tòri y cwlwm; ond er agosed oedd y cysylltiad, yn rhydd y daeth, pan oedd Mrs. Harries yn 56 oed, ac felly cafodd yr hen frawd deithio dyffryn galar ei hunan, am dros ugain mlynedd; ond yn yr yspaid hirfaith hyn, gweddus crybwyll fod ei blant wedi dangos pob caredigrwydd tuag ato, a diau na chollant eu gwobr am eu llafurus gariad a'u gofal am eu tad.

Er ys rhyw ddeng mlynedd yn ol, symudodd o'r Heollas i ymyl y capel, lle y gorphenodd ei yrfa yn nhŷ ei ferch Hannah, ac y mae hi a'i phriod yn haeddu parch am eu caredigrwydd a'u hynawsedd tuag ato yn ei hen ddyddiau. Bydded fod bendith yr Arglwydd yn dilyn ei blant, a phlant eu plant, o genedlaeth i genedlaeth, hyd byth.

YN AWR, NI DAFLWN OLWG FER AR MR. HARRIES YN EI HYNODION.— Os bydd rhyw un yn ei ystyried yn bwysig iddo gael gwybod pa fath ddyn oedd o ran ei ymddangosiad naturiol a chorphorol, gallwn ddyweyd nad oedd yn un o'r rhai glanaf o feibion Adda, ac ni byddai un amser yn cymeryd fawr o drafferth i harddu tipyn ar ei gyfansoddiad. Pwy bynag a welodd Mr. Harries, gwelodd ef fel yr oedd yn union; yr oedd ef yn wan iawn ei ffydd yn yr athrawiaeth o newid y ffasiwn; yr oedd ef yn gwbl yr un farn a'r Llyfr Gweddi Cyffredin gyda golwg ar hyn—"Fel yr oedd yn y dechreu, y mae'r awr hon, ac y bydd yn oes oesoedd. Amen." Ychydig iawn oedd newidiadau a ffasiynau'r byd yn effeithio arno ef. Buasai wedi myned yn newyn yn y West of England er ys llawer dydd, oni buasai fod rhyw rai yn gwisgo mwy o'u broad cloth nag efe; ac ni fuasai eisieu cael rhyfel gartrefol America, i beri i felinau cotton Manchester aros, pe buasai pawb yn gwisgo cyn lleied o'u lliain main ag efe. Nid oedd efe 'chwaith, fel llawer, yn credu fod rhyw rinwedd neillduol mewn ymlynu wrth hen arferiadau.