Meddylia rhai fod cadw gwallt i dyfu lawr dros y talcen, fel bargod tŷ nhadcu—gofalu fod yr hugan wedi ei thòri yn unol â'r hen ffasiwn, a'r holl ddillad ereill yn cyfateb, yn haner, ac yn wir, os nid yn ddigon o grefydd iddynt; a phwy bynag a anturia ddilyn y dull cyffredin, mae yn ddyn colledig, beth bynag yw ei rinweddau; ond nid oedd Mr. Harries o'r sect hon. Yr oedd efe yn ddigon boddlon i ddyn wisgo coat o sidan, os gallasai ei chael; ond fel arall yr oedd efe yn dewis byw, heb osod unrhyw bwys neillduol ar y dull allanol.
Byddai yn werth i ni hefyd edrych ar Mr. Harries fel cyfaill. Nid un o'r pethau hawddaf yw cael cyfaill cywir yn y byd drwg presenol, ond pwy bynag a gafodd Mr. Harries yn gyfaill, cafodd un cywir. Nid oedd un amser yn newid ei gyfeillion heb gael rhyw achos digonol i hyny. Mae rhai a'u cyfeillion yr un fath a'r plant a'u teganau—mor gynted ag y cânt un newydd, taflant yr hen o'r neilldu; ond gweithredai Mr. Harries gyda hyn yr un fath a'r cybydd a'i arian; pan fyddai yn gwneud eyfaill newydd, ychwanegu at ei stock y byddai, ac nid newid y naill yn lle y llall. Mae llawer wrth newid yn myned heb un yn mhell cyn marw. Ni chlywais ef erioed yn dyweyd mwy yn nghefn rhywun nag a ddywedasai yn ei wyneb, ac ni welais nemawr o neb erioed yn casâu ymddygiad felly yn fwy nag efe. Os na fuasai ganddo ryw dda i ddyweyd am frawd, yr oedd wedi dysgu tewi. Yr oedd yn medru codi pob da i sylw, a chladdu pob drwg o'r golwg. Gwyddai yn dda ei fod yn meddu ar golliadau ei hunan, ac nid oes neb o'r rhai felly yn rhy barod i estyn bys at ei gymydog. Mae cyfeillgarwch ac ymlyniad yn elfen bwysig iawn yn nghymeriad gweinidog, ac yn ychwanegu llawer at ei ddylanwad a'i werth yn y man lle mae yn aros. Mae yn anmhosibl bod yn weinidog da, heb fod yn gyfaill trwyadl.
Heblaw hyn, yr oedd Mr. Harries yn Gristion da. Yfodd yn helaeth o ysbryd Crist. Llefarai ei ymddygiadau mai Cristion iawn ydoedd. Nid wyf yn meddwl fod neb a'i adwaenai wedi cael lle i gredu erioed nad oedd gras Duw wedi gafael yn ei enaid. Y siomedigiaeth fwyaf erioed i ganoedd yn sir Fynwy fyddai gweled "Harries o'r Morfa" ar yr aswy law, o herwydd